Sianel / 15 Rhag 2021

Crynodeb 2021

Crynodeb 2021
More Than a Number Tour © David Drake
Crynodeb 2021
Diffusion 2021 event © David Drake
Crynodeb 2021
Installing Motherland © David Drake
Crynodeb 2021
Many Voices, One Nation 2 artists © David Drake
Crynodeb 2021
Nik Roche installation © David Drake

Wrth i 2021 ddod i ben, hoffem dreulio ennyd yn dathlu cyflawniadau tîm Ffotogallery, yr artistiaid, cynhyrchwyr creadigol, ein partneriaid a’r cefnogwyr niferus drwy’r byd i gyd.

Mae hon wedi bod yn flwyddyn o newydd-ddyfodiaid. Ym mis Ionawr estynodd ein tîm groeso i Cynthia Sitei, yn Gynhyrchydd Creadigol, a daeth Cath Cains, Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltiad i ymuno â ni ym mis Mehefin. Mae Liz Hewson, ein Cydlynydd Cynhyrchu, wedi bod ar gyfnod mamolaeth eleni a chyrhaeddodd Babi Ivy ym mis Mehefin. Yn yr Hydref ymunodd wyth o bobl ifanc greadigol a dawnus â ni i weithio ar Diffusion 2021, gyda chymorth gan Creative and Cultural Skills a chynllun Kickstart Llywodraeth y DU.

Yn ystod y misoedd hynny pan oeddem yn dal yn y cyfnod clo, cawsom gyfres o ddigwyddiadau ar-lein oedd yn canolbwyntio ar Ffotograffiaeth a Gwaith Menywod, Ffotograffiaeth a Lles a Ffotograffiaeth ac Affrica. Aethom ati i gyhoeddi A Woman’s Work, sef llyfr a gododd allan o’n prosiect dwy flynedd Creative Europe, a Nifer o Leisiau, Un Genedl sy’n cynnwys 20 o brosiectau newydd rhagorol gan artistiaid a ffotograffwyr diwylliannol amrywiol sy’n gweithredu yng Nghymru. Aethom ati hefyd i weithio ar ddau gydweithrediad digidol pwysig, Dychmygu’r Genedl Wladwriaeth gyda Chennai Photo Biennale, oedd yn cynnwys comisiynu tri artist o India a dau artist o Gymru ar y cyd i gynhyrchu gwaith newydd oedd yn mynd i’r afael â themâu cenedligrwydd a hunaniaeth, a Where’s My Space? gyda sefydliad ymgyrchu ieuenctid PAWA254 yn Kenya, yr aethom ati â nhw i gyd-lunio a datblygu lle rhithiol unigryw i adrodd straon gweledol, gan weithio gydag artistiaid a phobl greadigol sy’n dod i’r amlwg o Kenya a Chymru.

Ail agorodd yr oriel i’r cyhoedd ym mis Mai, gyda chyfres o arddangosfeydd a ohiriwyd oherwydd y pandemig – Nifer o Leisiau, Un Genedl 2, Unseen Suzie Larke, Green Dark Zillah Bowes a Motherland Maryam Wahid. Aethom â chyfrolau newydd o Dir/Môr Mike Perry ar daith i Oriel Thelma Hulbert yn Nyfnaint ac Oriel y Parc yn Nhyddewi. Cyflwynwyd unfed gyfrol ar ddeg The Place I Call Home yng Nghanolfan Gelf Madina yn Saudi Arabia. Yn yr arddangosfa More Than a Number yn Ffotogallery, a’r cyhoeddiad oedd yn cydfynd â hi, cafwyd gwaith gan 12 artist rhagorol o Affrica gyfan. Comisiynwyd Hilary Powell i wneud rhaglen breswyl yng Ngwaith Tun Tata yn Llanelli, a bydd y gwaith a gynhyrchir yn cael ei arddangos yn Ffotogallery ac Amgueddfa’r Glannau Abertawe yn 2022. Ym mis Medi, aethom ati i gyflwyno cyfrol newydd o Go Home Polish Michal Iwanowski’s yn Fotosommer yn Stuttgart, yn rhan o fenter Cymru-Yr Almaen 2021.

Mae ein safle yn Fanny Street wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau cymunedol a phrosiectau ymgysylltu gwych, yn ogystal â sgyrsiau rheolaidd gan artistiaid, symposia, sgrinio ffilmiau ac arddangosfeydd. Trwy gyfuno hyn â’n gwaith allgymorth yng Nghaerdydd, Casnewydd, Tyddewi a Llanelli, rydym wedi cyrraedd miloedd o unigolion o bob oed a chefndir.

Bwydodd yr egni a’r cyffro a gynhyrchwyd gan yr uchod i mewn i gyfrol hynod lwyddiannus o’r ŵyl eilflwydd Diffusion: Gŵyl Ryngwladol Ffotograffiaeth Cymru a ddigwyddodd ym mis Hydref ar nifer o safleoedd ac mewn nifer o leoliadau yng Nghaerdydd a Chasnewydd gyda llu o gyflwyniadau gan artistiaid a ffotograffwyr sydd wedi eu seilio yng Nghymru, a gan waith pobl eraill o bum cyfandir. Ein dewis thema ar gyfer y gyfrol hon o’r ŵyl oedd Trobwynt, ac roedd yn teimlo fel adeg hollbwysig go iawn yn dilyn straen a chaledi 2020. Edrychwn ymlaen at weld beth ddaw o ran prosiectau newydd yn 2022 i adeiladu ar y momentwm hwn, a chyrhaeddiad Cyfarwyddwr newydd hefyd oherwydd, yn dilyn bron i 13 mlynedd wrth y llyw, bydd David Drake yn gadael ei swydd ddiwedd y mis.

Cyfarchion y Tymor gan Dîm Ffotogallery Rhagfyr 2021