Sianel / 5 Meh 2020

Mae’n Bryd Meddwl a Gweithredu’n Wahanol

Datganiad gan David Drake, Cyfarwyddwr, 5 Mehefin 2020

Heddiw rydym yn cynnig ein cefnogaeth lawn i’r mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac i’r rheiny sy’n ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol a chydraddoldeb ledled y byd.

Mae dicter cyhoeddus am y pethau trasig sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau, effaith anghymesur y pandemig Covid-19 ar unigolion a chymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) ym Mhrydain, a’r ffaith ei bod hi’n dynesu at dair blynedd ers tân Tŵr Grenfell, oll yn tanlinellu’n amlwg iawn bod angen i ni i gyd gydnabod bod hiliaeth yn rhywbeth sy’n digwydd ar stepen ein drws ni ein hunain. Rydym yn teimlo dyfnder y dicter a’r dolur, a’r rhwystredigaeth ynghylch y ffaith bod y broses o newid yn cymryd cyhyd, er gwaethaf degawdau lawer o brotestio ac ymgyrchu, deddfwriaeth ac addewidion gan y llywodraeth.

Mae’n bryd i sefydliadau diwylliannol, yn fawr a bach, gwestiynu’r hyn a wnawn, y datganiadau a wnawn, ein llywodraethiad, ein harferion cyflogaeth, ein rhaglenni a’n hymwneud ag artistiaid a chynulleidfaoedd. Mae angen i ni gydnabod ein rhagfarnau, p’un a ydyn ni’n ymwybodol ohonyn nhw ai peidio, ac mae angen i ni eu herio nhw ar bob lefel. Mae angen i ni wrando ar leisiau’r bobl hynny sy’n teimlo eu bod nhw’n cael eu gwthio i’r ochr neu’n cael eu cau allan, a’r rheiny sy’n methu ymddiried mewn sefydliadau cyhoeddus ac sy’n teimlo bod y drws ynghau iddyn nhw o ran cyfleoedd. Mae angen i ni ddefnyddio ein dylanwad i siapio dyfodol mwy cynhwysol, amrywiol a chyfartal i’r celfyddydau, ac i’r gymdeithas gyfan. Mae angen i ni fyfyrio, gweithredu’n benderfynol a sicrhau newidiadau lle mae eu hangen.

Rwy’n falch iawn o’r camau y mae Ffotogallery wedi bod yn eu cymryd ers blynyddoedd lawer i ymdrin ag amrywiaeth, cynhwysiad a chyfiawnder cymdeithasol, yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae hyn yn hysbysu ein penderfyniadau ynghylch ein rhaglenni, sydd wedi’u gyrru gan yr egni creadigol, yr ymrwymiad a’r weledigaeth sydd gan yr artistiaid a’r sefydliadau partner y gweithiwn â hwy, ynghyd â’n tîm ninnau hefyd. Ond, rwy’n cydnabod bod cymaint mwy i’w wneud i ymdrin ag arferion gwahaniaethol a hiliaeth systemig. Mae angen i ni fod yn fwy agored, gonest ac atebol, rhaid i ni ein cwestiynu ein hunain a pheidio mynd yn hunanfodlon. Mae angen i ni fynd ati’n rhagweithiol i wahodd ein cynulleidfaoedd a’r gymuned artistig yng Nghymru a thu hwnt i ymuno â sgyrsiau adeiladol ac arwyddocaol am weithgareddau Ffotogallery yn y dyfodol. Mae cyfle digynsail gennym yn awr i feddwl a gweithredu’n wahanol, wrth i ni ddechrau dod allan o gam cyntaf ofnadwy’r pandemig.

Mae’n brofiad anghyfforddus gofyn cwestiynau anodd amdanom ein hunain, ac o’m profiad innau, mae mudiadau celfyddydol yn aml yn ymateb mewn ffyrdd amddiffynnol ac yn gwrthwynebu newid. Dydy hynny ddim yn opsiwn i Ffotogallery. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i fod yn llais cryf a dylanwadol yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Byddwn yn chwarae ein rhan mewn canfod atebion ar unwaith ac atebion hirdymor i’r diffygion hyn yn y system. Rydym eisiau gweithio gyda chi i ymdrin â’r materion o dan yr wyneb a chyflwyno’r newidiadau gweddnewidiol sydd eu hangen ar frys mawr.

Os hoffech rannu eich syniadau a’ch meddyliau gyda ni, ysgrifennwch ataf yn uniongyrchol ar [email protected]

Cadwch yn iach a ddiogel

David Drake

Cyfarwyddwr