Sianel / 29 Ebr 2022

Newyddlen mis Ebrill

What is lost…. What has been
John Paul Evans

A Pair of Pansies © John Paul Evans

17 Mehefin – 3 Medi 2022

Rhagolwg: Dydd Iau 16 Mehefin, 6pm

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno What is lost…what has been, sef arddangosfa solo o waith ffotograffig gan yr artist o Gymru Paul Evans, a fydd yn rhedeg rhwng 17 Mehefin a 3 Medi 2022.

"Ymson weledol yw What is lost …what has been i ‘gyfeillion absennol’, pobl a ystyriwn i fel teulu. Mae’r gweithiau hefyd yn goda i’m gosodwaith in the sweet bye & bye oedd yn gathecsis ffotograffig mewn ymateb i farwolaeth fy ffrind agosaf ym mis Rhagfyr 2017. Daeth ei farwolaeth yntau ag atgofion yn ôl am ffrind agos fy nhad a fu farw ychydig flynyddoedd ynghynt.

Mae’r broses hunan-ethnograffig o weu’ch hanes personol yn ddeialog gweledol yn ffordd fuddiol o edrych ar duedd ffotograffiaeth tuag at goffáu a hefyd ddadansoddi syniadau am berthyn/arwahanrwydd, galar a phrudd-der mewn cysylltiad â’r albwm ffotograffig teuluol."

Mae John Paul Evans yn artist ffotograffig ac academydd a aned yng Nghymru ac sydd yn awr yn byw yn Nyfnaint, Lloegr. Mae ei waith yn archwilio dadleuon am gynrychioliaeth y rhywiau mewn ffotograffiaeth. Mae wedi derbyn amrywiol wobrau rhyngwladol yn cynnwys Gwobr Meistri Hasselblad 2016. Enillodd Wobr Du a Gwyn Cylchgrawn Dodho 2017, Gwobrau Ffotograffiaeth KL 2017, gwobrau portffolio Bokeh Bokeh 2017 a 2018, a Gwobr Ffotograffiaeth Pride 2014.

Mwy o wybodaeth

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn Ffotogallery

© Nelly Ating

Yn 2022, mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn digwydd ar 9-15 Mai ar y pwnc ‘Unigrwydd’. Mae unigrwydd yn effeithio ar nifer gynyddol ohonom ni yn y DU ac mae wedi cael effaith enfawr ar ein hiechyd corfforol a meddyliol yn ystod y pandemig. Mae ein cysylltiad â phobl eraill a’n cymuned yn hanfodol er mwyn diogelu ein hiechyd meddwl ac mae angen i ni ganfod gwell ffyrdd o ymdrin â’r epidemig o unigrwydd. Gallwn oll chwarae rhan yn yr ymdrech hon ac, yn Ffotogallery, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni am bedwar diwrnod o weithgareddau a sgyrsiau sydd â ffocws ar les meddyliol ac unigrwydd.

Bob nos rhwng Dydd Mercher 11 a Dydd Gwener 13, byddwn yn cynnal trafodaethau gyda’r artistiaid / ffotograffwyr Suzie Larke, Jo Haycock, Iko-Ojo Mercy Haruna a Nelly Ating. Byddant yn edrych yn fanwl ar y ffordd y maen nhw’n defnyddio eu delweddau i gyfleu trafferthion iechyd meddwl a’r materion a’r ffactorau dylanwadol sy’n gallu effeithio ar ein hiechyd a’n lles, a byddant yn rhannu eu straeon eu hunain.

Ar Ddydd Sadwrn y 14eg byddwn yn cynnal diwrnod cyfan o weithgareddau sydd â ffocws ar wella ein lles ac ymdrin ag unigrwydd. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys gwneud pompoms, gemau bwrdd, reiki a mwy.

Mwy o wybodaeth

Gŵyl Gerddoriaeth MADE UP

Rydym wedi mynd i bartneriaeth â MADE Caerdydd i gynnal eu digwyddiad cerddoriaeth fyw mawr cyntaf ers y pandemig! Mae’r ŵyl MADE UP yn cyflwyno tri diwrnod o gerddoriaeth, barddoniaeth a phethau ysblennydd i’w gweld a’u gwylio, i ddathlu electro, roc glam, gwerin a jazz brodorol. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos barddoniaeth a gwaith gwneud ffilmiau drwy gyfresi gair llafar, gweithdai a riliau gweledol, ynghyd â pherfformiad unigryw gan VJ Chameleonic sydd wedi eu seilio yng Nghaerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y perfformwyr ac i archebu eich tocynnau penwythnos a thocynnau prynwyr cynnar ar-lein, gallwch naill ai ddefnyddio’r ddolen isod neu brynu tocynnau yn siop MADE Caerdydd ar Stryd Lochaber, Cathays.

Mwy o wybodaeth

Llyfr y Mis: Newport City of Subculture

Mae ein sîn ‘Casnewydd – Dinas o Is-Ddiwylliant’ yn dangos y ffotograffiaeth orau mewn dinas sydd â hanes ffotograffig. Mae’r gwaith sydd wedi’i gynnwys yn ddetholiad o’r dalent ffotograffig anhygoel sydd i’w chael yng Nghasnewydd, yr holl artistiaid a arddangoswyd yn ystod Diffusion: Trobwynt ym mis Hydref 2021. Mae’n cynnwys y bobl a’r ddinas sy’n dod allan o’r pandemig ac yn dod at ei gilydd i ddathlu creadigedd ac is-ddiwylliant! O brotest i bortreadau, o dwristiaeth i gymunedau, o fatresi i gawellau adar, mae ein sîn yn adlewyrchu Casnewydd yn ei holl ffurfiau!

Mae’r ffotograffwyr dan sylw yn cynnwys:

Dilip Sinha, Huw Talfryn Walters, Bandia Ribeira, Michael Alberry, Rhys Webber, Fergus Thomas, Daragh Soden, Lua Ribeira, Clémentine Scheidemann, Kamila Jarczak, John Briggs, Marega Palser, Steven George Jones, Justin Teddy Cliffe, Ron McCormick, Mohamed Fez Miah a Sebastián Bruno

Mwy o wybodaeth


Efallai hefyd bod gennych ddiddordeb yn y pethau hyn:



Eye 2022

Mae Gŵyl y Llygad yn dod yn ôl i Aberystwyth eleni, ac mae’r siaradwyr wedi eu cyhoeddi erbyn hyn. Mae tocynnau ar gael cyn hir felly daliwch i edrych ar y wefan i weld yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mwy o wybodaeth

FfotoNewport

Ewch draw i FfotoNewport o 5 Mai ar gyfer rhagddangosiad eu harddangosfa ddiweddaraf, sef dangosiad o luniau a dynnwyd gan David Hurn pan oedd yn addysgu ar y cwrs Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd yn yr 1970au a’r 80au.

Mwy o wybodaeth

© Huw Alden Davies

The Last Valley

Mae arddangosfa Huw Alden yn Oriel Myrddin yn tynnu at ei gilydd am y tro cyntaf gasgliad o waith a gynhyrchodd dros bedair blynedd ar ddeg. Mae The Last Valley yn cael ei arddangos hyd 14 Mai 2022

Mwy o wybodaeth

Arise - Wales Creatives

Cafodd ARISE - WALES CREATIVES ei greu ar gyfer pobl greadigol dros 18 oed sydd ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd ac sy’n teimlo nad ydynt wedi eu cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd mewn theatr ac yn y celfyddydau yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn cefnogi 10 cyfarwyddwr a 10 cynhyrchydd i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd.

Mwy o wybodaeth