Sianel / 27 Ion 2021

Cyfweliad Artist: Jack Osborne

Beth sbardunodd eich diddordeb mewn ffotograffiaeth i ddechrau? Ydych chi’n edmygu unrhyw ffotograffwyr yn arbennig?

Cychwynnodd fy niddordeb mewn ffotograffiaeth pan oeddwn i yn fy arddegau yn defnyddio camera fy nhad. Dechreuais dynnu lluniau o fyd natur a thirweddau i ddechrau a dim ond pan gyrhaeddais flynyddoedd fy Lefel A y penderfynais i newid fy ffocws a thynnu lluniau o bobl. Rydw i wedi bod ag awydd erioed i ddogfennu’r byd o’m cwmpas a sut rydw i’n ei weld e. Un o fy hoff ffotograffwyr yw Tyler Mitchell. Roeddwn i’n ffodus iawn i’w glywed yn siarad am ei waith ychydig wythnosau yn ôl ar weminar. Rydw i wrth fy modd gyda’r senarios breuddwydiol y mae’n eu creu a’r teimlad bregus sydd yn ei luniau.

Beth oedd y cymhelliant a sbardunodd eich prosiect?

Sbardunwyd y prosiect gan y pegynu sy’n digwydd yn y cyfryngau ar hyn o bryd. Er enghraifft, os byddwn ni’n edrych ar yr iaith a ddefnyddiwyd wrth nesáu at refferendwm yr UE, roedd llawer o sôn amdanom ‘ni’ yn eu herbyn ‘nhw’. Rydyn ni’n gweld hyn hefyd yn y delweddau penodol iawn a ddefnyddiwyd. Yn y grŵp o gyfeillion amrywiol iawn oedd gen i yn y brifysgol, doedd dim ‘ni’ yn eu herbyn ‘nhw’, dim ond ni. Fel dyn gwyn rwy’n gweld fy hun yn cael fy nghynrychioli ymhob maes o ddiwylliant gweledol, ond sylweddolais nad oeddwn i’n gweld fy ffrindiau’n cael eu dangos yn yr un ffordd. Mae’r diwydiant ffasiwn yn benodol yn adnabyddus iawn am ei ddiffyg amrywiaeth. Felly, trwy gynrychioli’r diwylliant ieuenctid amrywiol yng Nghaerdydd a’i roi yng nghyd-destun ffasiwn a gwleidyddiaeth, gallwn brotestio yn erbyn cynrychiolaeth anghyfartal o wyn.

I chi fel ffotograffydd, ym mha ffyrdd mae’r pandemig wedi effeithio ar eich gwaith? Sut mae wedi effeithio ar eich dewis bwnc a’ch dull?

Mae’r pandemig wedi newid fy mhwnc a’r ffordd rydw i’n gweithio yn gyfan gwbl. Ar ôl defnyddio fy chwaer fel model ar gyfer rhai o fy lluniau, trois y camera arnaf i fy hun yn y diwedd. Dechreuais wneud hynny er mwyn ceisio tynnu ychydig o luniau neis a chadw fy ysbrydoliaeth, ond yna datblygodd hyn yn gyrff o waith. Roeddwn i’n defnyddio’r cyrff hyn o waith fel ffordd o fynegi fy hun, yn benodol fy ngwrywdod. Drwy dynnu lluniau ohonof fy hun rwy’n teimlo fy mod wedi cael dealltwriaeth o ffotograffiaeth nad oedd gen i o’r blaen.

Beth yw eich barn am gael eich cynnwys yn arddangosfa Ffotogallery?

Rydw i’n hynod o ddiolchgar ac yn falch o gael fy nghynnwys yn yr arddangosfa. Credaf mai’r hyn rwy’n fwyaf diolchgar amdano yw’r ffaith bod fy ngwaith yn gallu eistedd yng nghalon y ddinas a’i hysbrydolodd, ac y gall barhau i herio’r syniadau o gynrychioli hil i’r rheiny sy’n ei weld e. Rwyf hefyd wrth fy modd bod ffotograffiaeth o Gymru’n cael y gydnabyddiaeth hon, ac mae’n anrhydedd i mi weld fy ngwaith yn eistedd ochr yn ochr â gwaith cymaint o unigolion dawnus.

Beth yw eich gobeithion i Gymru yn 2021?

Fy ngobaith i Gymru yn 2021 yw iachád. Gobeithio y gallwn oll barhau i ddod ynghyd i geisio rhoi’r pandemig hwn y tu ôl i ni, ac edrych ymlaen at ddyfodol gwell. Rwyf hefyd yn gobeithio y gall cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig iacháu o’r anghyfiawnder hiliol sy’n parhau i ddigwydd drwy Gymru gyfan a gweddill y DU, ac y gallwn oll wneud yr ymdrech ar y cyd i greu cymdeithas fwy cyfartal.