Sianel / 9 Awst 2019

Swyddi gwag ar Fwrdd Ffotogallery

Yn haf 2019, bydd Ffotogallery yn gorffen symud i gartref newydd yn Cathays, Caerdydd. Ein huchelgais yw creu man â ffocws deinamig newydd i ffotograffwyr, artistiaid a phawb sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth a brwdfrydedd mawr amdano. Bydd y lle newydd yn agored i’r cyhoedd yn yr hydref.

Wrth i ni gychwyn cyfnod cyffrous a gweddnewidiol yn ein hanes, hoffem benodi pedwar o ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’n Bwrdd. Rydym yn chwilio am unigolion fydd yn gallu ein helpu i siapio a darparu gweledigaeth strategol dymor hir newydd ar gyfer y sefydliad.

Ers iddo gael ei ffurfio yn 1978, mae Ffotogallery wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau newydd mewn ffotograffiaeth a chyfryngau lens yng Nghymru a thu hwnt. Mae wedi annog ymgysylltiad dyfnach gyda ffotograffiaeth ymysg y cyhoedd ynghyd â gwell dealltwriaeth ohono a’i werth i gymdeithas. Mae cwmpas ein gweithgareddau presennol yn eang ac maent yn cynnwys;

  • Arddangosfeydd, gweithgareddau cyhoeddi ar-lein ac mewn print a phrosiectau sy’n adlewyrchu esblygiad y cyfrwng ffotograffig a’i rôl yn y byd
  • Comisiynu ac arddangos gwaith artistiaid newydd ac artistiaid sefydledig ac arferion ar draws y disgyblaethau sy’n ymateb i natur esblygol y cyfrwng
  • Sefydlu a rhedeg yr ŵyl Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd bob yn eilflwydd (www.diffusionfestival.org)
  • Datblygu adnoddau dysgu, trefnu sgyrsiau a digwyddiadau, cyrsiau a gweithdai i gefnogi arferion, gwerthfawrogi a chyfnewid gwybodaeth
  • Darparu stiwdio creadigol a lle gweithio digidol i ymarferwyr creadigol, grwpiau sy’n cydweithio ac artistiaid rhyngwladol sy’n ymweld
  • Gofalu am ddeunyddiau archif a chynhyrchu rhai newydd a sefydlu llyfrgell newydd fel bod y cyhoedd yn cael eu gweld
  • Cyfleoedd i gael interniaethau, i wirfoddoli ac i ddatblygu sgiliau ar draws yr ystod o waith y sefydliad

Rhedir y cwmni gan dîm bychan dan arweiniad y Cyfarwyddwr, David Drake. Rydym yn gweithio’n rheolaidd gyda ffotograffwyr, artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn ogystal ag ystod eang o sefydliadau partner i ddarparu’r ystod lawn o’n gwaith. I gael rhagor o wybodaeth amdanom ni, ein gweithgareddau, ewch i wefan Ffotogallery ar www.ffotogallery.org

Mae aelodau’r Bwrdd yn chwarae rôl bwysig mewn sicrhau llywodraethu da ar gyfer y sefydliad, yn ogystal â bod yn llysgenhadon ar gyfer gwaith y sefydliad ac ar gyfer ffotograffiaeth yng Nghymru. Er y byddai gennym ddiddordeb mewn unigolion sydd â sgiliau a phrofiad mewn Ffotograffiaeth, y Celfydyddau Gweledol, Cyllid, Codi Arian, y Gyfraith, Marchnata ac Addysg, rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb – beth bynnag fo eu hoedran, cefndir neu brofiad. I’r rheiny fyddai’n ymddiriedolwyr am y tro cyntaf, byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd i hyfforddi yn rolau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwr.

Mae Ffotogallery hefyd eisiau adeiladu Bwrdd Ymddiriedolwyr amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau lle mae’n gweithio. Pan soniwn am amrywiaeth rydym yn cyfeirio at amrywiaeth eang o nodweddion sy’n cynnwys oedran, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb, crefydd, cenedligrwydd, profiad a sgiliau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir a byddem yn annog enwebiadau’n arbennig gan ymgeiswyr ifanc, anabl neu Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig a fydd yn gallu cyfrannu at lwyddiant tymor hir Ffotogallery. Bydd gofyn i aelodau’r Bwrdd fynd i hyd at bedwar cyfarfod bwrdd bob blwyddyn a Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd blynyddol, yn ogystal â mynd i amrywiol agoriadau arddangosfeydd, digwyddiadau a gwyliau. Bydd gofyn i chi hefyd ledaenu’r gair ymysg eich rhwydweithiau eich hunain, er mwyn helpu i sicrhau bod ein gwaith yn cyrraedd mor bell ac eang ag sy’n bosibl.

Mae Ffotogallery yn gwmni dielw sy’n gyfyngedig drwy warant ac yn elusen gofrestredig, sy’n derbyn arian blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a chyllid prosiect o amrywiaeth o wahanol ffynonellau cenedlaethol a rhyngwladol.

Rhif Cwmni Cofrestredig: 01708938

Rhif Elusen Gofrestredig: 513726

Ein Hymddiriedolwyr presennol

Mathew Talfan (Cadeirydd)

Mae Mathew yn ymgynghorydd brand a chyfathrebu gyda chefndir yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol sy’n ymwneud â darlledu, hysbysebu, dylunio, celfyddydau gweledol a pherfformio ac addysg uwch. Mae’n Gymrodor i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd Photomarathon UK, y digwyddiad ffotograffig blynyddol oedd yn digwydd yng Nghaerdydd rhwng 2004 a 2015.

Alicia Miller

Mae Alicia wedi gweithio ers mwy nag 20 mlynedd yn y byd celfyddydau gweledol cyfoes, fel Cyfarwyddwr Cyswllt yn San Francisco Camerawork, Pennaeth Addysg a Digwyddiadau Cyhoeddus yn Oriel Whitechapel, Llundain a’r Cyswllt Axisweb yng Nghymru, ymysg swyddi eraill.

David Massey

Mae David yn Gynhyrchydd Digidol a Churadur i Opera Cenedlaethol Cymru, sy’n gofyn ei fod yn cynhyrchu gosodiadau digidol sy’n dangos straeon diddorol, creadigol ac arloesol i hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth a theatr glasurol. Cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru, roedd David yn gweithio i’r BBC mewn cynhyrchu a darlledu ar-lein.

Jack Arthur

Mae Jack yn ddatblygwr busnes ar gyfer y wefan cymharu prisiau Confused.com. Mae ganddo fwy na 3 blynedd o brofiad yn Fintech and Financial Services ac mae wedi gweithio yn y DU ac yn Ffrainc. Mae Jack hefyd yn Gynghorwr Busnes ac yn rhan o’r rhwydwaith creadigol yn Arts & Business Cymru.

Philippa Haughton

Mae Philippa yn ymchwilydd cymdeithasol sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae hi’n hanesydd Prydain fodern sydd â diddordebau ymchwilio eang.

Mike Bryan

Treuliodd Mike 30 mlynedd yn gweithio i ITV Cymru mewn amrywiol rolau rheoli technoleg a darlledu. Mae wedi ymddeol yn swyddogol, ond mae’n parhau i wneud rhywfaint o waith darlledu llawrydd yn rhan amser. Mae hefyd yn aelod o Fwrdd RCTCAB (Canolfan Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf) a Too Good to Waste yn Ynyshir.

Hugh Thomas

Hugh yw sylfaenydd My Future My Choice ac mae’n creu rhaglenni addysgol amlddisgyblaethol sy’n hybu hyder pobl ifanc ac yn eu hysbrydoli i feddwl am eu dyfodol. Mae wedi arwain mentrau addysg i lywodraeth leol a chenedlaethol, mae’n rhedeg cwmni celfyddydau a digwyddiadau celfyddydau cyhoeddus, mae wedi gweithio mewn ysgolion uwchradd ac mae wedi sefydlu prosiectau ac elusennau cymunedol. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Addysg i’r Bristol Initiative Trust sy’n amcanu i helpu i ‘gynhyrchu dysgwyr gyda phlwc’.

Sut i wneud cais

Os hoffech wneud cais i ymuno â’n Bwrdd, anfonwch ddatganiad cefnogol atom yn amlinellu’r rhesymau pam y mae gennych ddiddordeb yn y swydd a’r hyn y gallech chi ei gynnig i’r rôl yn eich barn chi, yn ogystal â chopi o’ch CV, yn cynnwys eich manylion cysylltu llawn a rhifau ffôn yn ystod y dydd a gyda’r nos.

Anfonwch eich cais ar yr e-bost at David Drake, Cyfarwyddwr, ar [email protected]

Os hoffech sgwrs anffurfiol, gyfrinachol cyn cyflwyno eich cais, cysylltwch ag un o’r rhain os gwelwch yn dda:

David Drake, Cyfarwyddwr, ar yr e-bost yn [email protected], neu

Mathew Talfan, Cadeirydd, ar yr e-bost yn [email protected].


Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Medi 2019.
Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2019.