Sianel / 1 Mai 2018

Cal Coton - Work Experience

Fy enw i yw Cal Coton. Cefais fy ngeni a'm magu yn Penzance, Cernyw. Dw i'n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Falmouth ac yn astudio am radd BA Anrhydedd mewn Ffotograffiaeth. Fe wnes i gais i dair prifysgol arall cyn Falmouth ond penderfynais aros yn driw i fy ngwreiddiau ac astudio yng Nghernyw. Portreadau a gwaith stiwdio/lleoliad yw fy ngwaith ffotograffig gan mwyaf. Pan ddaeth hi'n fater o ddewis lleoliad profiad gwaith yn ail flwyddyn fy nghwrs, roeddwn i wedi meddwl yn y lle cyntaf y gallwn i gynorthwyo ffotograffydd neu weithio mewn stiwdio. Yna fe ddes i o hyd i Ffotogallery ym Mhenarth. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl - dw i wastad yn poeni y bydd orielau fymryn yn ddienaid, ond cefais fy synnu pa mor hamddenol oedd pethau yma yn Ffotogallery. Cyrhaeddais Benarth ar ddydd Sadwrn ac aros yng Ngwesty'r Glendale, reit drws nesaf i'r oriel. Cefais fy synnu hefyd pa mor debyg yw Penarth i fy nghartref. Crwydrais o gwmpas y dref yn ystod yr wythnos, mynd i lan y môr a dod o hyd i dafarn braf dros y ffordd lle roedd y bwyd yn dda.

Yn ystod fy nghyfnod yma, cefais amrywiaeth o dasgau a chyfleoedd. Ar fy niwrnod cyntaf, ces i gwrdd â'r staff a dysgu am waith Ffotogallery gan David, y cyfarwyddwr. Wedi hynny, roeddwn i’n rhan o gyfarfod cynllunio'r tîm. Wedi hynny, gweithiais gyda Liz a helpu i dynnu'r arddangosfa gyfredol i lawr. Roedd angen tynnu'r lluniau o'r waliau a'u lapio'n ofalus, cymryd y sgriwiau allan o'r waliau a llenwi'r tyllau. Treuliwyd gweddill y dydd yn peintio ac yn adfer waliau'r oriel - profiad therapiwtig rhaid i mi gyfaddef.

Ar y dydd Mawrth, dechreuais drefnu cardiau gwahodd i arddangosfeydd Ffotogallery dros y blynyddoedd gyda David (Cyfarwyddwr). Bydd y rhain yn rhan annatod o arddangosfa Chronicle. Es i i Ikea hefyd i gasglu eitemau fel fframiau a silffoedd ar gyfer yr arddangosfa. Hwn oedd y tro cyntaf i mi fod yn y siop - roedd yn agoriad llygad go iawn!

Treuliwyd dydd Mercher yn trefnu'r cardiau gwahodd yn ôl dyddiad a'u paratoi nhw i gael eu harddangos. Defnyddiais fy sgiliau dylunio graffeg yn y prynhawn i greu ffeiliau inffograffeg i Phil (Swyddog Marchnata a Chyfathrebu) gael eu defnyddio wrth iddo hyrwyddo gwahanol agweddau ar yr arddangosfa.

Dydd Iau oedd un o fy hoff ddyddiau yn ystod fy nghyfnod gyda Ffotogallery. Yn y bore, es i i Hobbycraft am y tro cyntaf i gasglu ffolderi arddangos gydag Esther (Rheolwr Busnes) a chreu llyfrau archif ar sail y cardiau gwahodd y bûm yn eu trefnu yn ystod yr wythnos. Yn y prynhawn es i ar daith gydag Esther i Amgueddfa Caerdydd i weld arddangosfa David Hurn a chael taith dywysedig o gwmpas rhai o ganolfannau celfyddydol Caerdydd.

Heddiw yw fy niwrnod olaf, a dw i wedi cwblhau'r holl dasgau a roddwyd i mi – dw i'n gorffen felly drwy ysgrifennu'r darn hwn ar gyfer y wefan. Dw i ddim yn credu taw hwn fydd y tro olaf i mi ymweld â Ffotogallery – yn wir, dw i eisoes yn trefnu'r ymweliad nesaf.

Drwy gydol yr wythnos dw i wedi sylwi fy mod yn fwyfwy trefnus ac yn fwy penderfynol o fod yn gynhyrchiol – o ran fy ngwaith ac o'm rhan fy hun. Mae Ffotogallery wedi fy ngalluogi i gael profiad o weithio mewn oriel ac i weld hefyd cymaint o amser ac egni y mae eu hangen er mwyn sicrhau canlyniadau a chyflwyniadau proffesiynol. Dw i'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd a gefais ac i'r tîm am eu cymorth a'u harweiniad yn ystod yr wythnos.