Sianel / 17 Rhag 2018

Cyhoeddiad Chronicle

Ers ei gychwyniad 40 mlynedd yn ôl, mae Ffotogallery wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu diwylliant ffotograffig cyfoes yng Nghymru. Rydym wedi gwneud hyn drwy gomisiynu a chyflwyno gwaith newydd mewn arddangosfeydd ac mewn gwyliau a digwyddiadau rhyngwladol, drwy gyhoeddi estynedig ar-lein ac mewn print, drwy ein cefnogaeth i artistiaid trwy’r lens a ffotograffiaeth sy’n dechrau dod i’r amlwg, a thrwy ein gwaith arloesol mewn addysg ac allgymorth sy’n rhoi cyfle i groestoriad eang o’r gymuned gyfranogi’n greadigol.

Mae Chronicle yn gosod y sylfeini ar gyfer cam nesaf gwaith Ffotogallery, lle bydd cenhedlaeth newydd o ffotograffwyr ac artistiaid trwy’r lens yn dod i’r amlwg mewn cyfnod pan rydym yn derbyn ac yn cyflwyno cynnwys creadigol fwy a mwy ar blatfformau ffisegol a rhithwir. Am fod cymaint o ddelweddau’n cael eu rhannu ar-lein, a fydd galw o hyd am orielau celf ac arddangosfeydd traddodiadol? Os felly, pa waith fydd yn cael ei gyflwyno ym mha fathau o leoedd? Pa sgiliau sydd eu hangen ar ffotograffwyr ac artistiaid i adeiladu gyrfa lwyddiannus? Sut all Cymru gael mwy o gysylltiad byd-eang drwy ffotograffiaeth a chyfryngau digidol?

Lawrlwythwch sampl o’r cyhoeddiad isod

Mae Chronicle ar gael yn awr i’w brynu yn y Turner House Gallery, Plymouth Road, Penarth CF64 3DH.