Sianel / 23 Gorff 2020

Dosbarth 2020

Mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd pan fyddai myfyrwyr yn y celfyddydau ar draws y DU yn paratoi eu harddangosfa i ddathlu cwblhau eu hastudiaethau. Er gwaethaf popeth y mae pandemig byd-eang wedi ei daflu atynt, mae’r myfyrwyr a’r staff addysgu fel ei gilydd wedi gweithio’n eithriadol o galed i greu fersiwn arall ar-lein yn lle cynnal arddangosfa ffisegol. Roeddem ninnau eisiau cymryd y cyfle hwn i daflu’r sbotolau ar y bobl hynny sy’n graddio’r haf hwn o gyrsiau gradd ffotograffiaeth a chelfyddydau yng Nghymru. Llongyfarchion i’r genhedlaeth nesaf o ffotograffwyr ac artistiaid yng Nghymru – edrychwn ymlaen yn fawr at weld beth wnewch chi nesaf.


BA Ffotograffiaeth (Prifysgol De Cymru)


Bob blwyddyn mae’r myfyrwyr sy’n graddio wedi cael y dasg o lunio a chyhoeddi eu cyhoeddiad eu hunain, ac mae hi yr un fath eleni. Gallwch fodio drwy’r llyfr sydd ar eu gwefan, lle gallwch hefyd grwydro drwy eu harddangosfa rithwir 3D. Mae’r adnoddau ychwanegol yn cynnwys tâp arddangos, cefndir a phortffolio’r myfyrwyr, ynghyd â thestunau a chyhoeddiadau blaenorol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd sbec.

Mae’r artist a’r cyn-fyfyriwr BA Ffotograffiaeth o Brifysgol De Cymru, Alistair Farthing, yn dweud hyn yn y cyhoeddiad:

“Mae’r artistiaid yn y cyhoeddiad hwn wedi treulio’r tair blynedd diwethaf yn diffinio eu gwaith ac yn eu sefydlu eu hunain fel artistiaid proffesiynol. Mae’r gofid sydd wedi dod i ran y myfyrwyr hyn yn eu blwyddyn derfynol o astudio yn rhywbeth nad ydym wedi ei weld o’r blaen, ac mae ‘Hole Punch’ yn tystio i’w dyfeisgarwch a’u gallu i weithio’n adweithiol ac yn fyfyriol mewn amgylchiadau y tu hwnt i’r cyffredin.”

Gallwch weld yr arddangosfa yma

Instagram: @uswphotography


BA Mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol (Prifysgol De Cymru)

Yn yr un modd, mae myfyrwyr BA Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol De Cymru wedi creu gwefan i ddangos eu sioe raddedigion dan y teitl ‘Mezzanine’. Ar y safle gallwch weld proffiliau unigol myfyrwyr, crwydro drwy eu harddangosfa rithwir a bodio drwy eu cyhoeddiad graddedigion.

Mae arweinydd y cwrs Paul Reas yn dweud hyn yn y cyhoeddiad ‘Mezzanine’:

“Yn 46fed blwyddyn ein cwrs, mae’n bleser gen i gyflwyno’r cyhoeddiad hwn sy’n arddangos gwaith dosbarth graddio Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol De Cymru 2020. Daw’r cyhoeddiad hwn mewn cyfnod digynsail i ni oll, a chyfnod pwysig yn fy marn i oherwydd yr hyn y gall ffotograffiaeth ddogfennol a’r celfyddydau’n ehangach ei gynnig. […]

Mae’r prosiectau sydd wedi eu harddangos yma ac ar-lein yn cysylltu ag amrywiaeth eang o themâu sydd wedi eu hysbysu gan eu profiadau eu hunain mewn cymdeithas; gan ystyried pynciau sy’n cynnwys dosbarth cymdeithasol, rhyw ac anabledd, materion amgylcheddol a geowleidyddol, colled a galar, cyfyngiad a seicoleg.”

Gwelwch yr arddangosfa yma

Instagram: @docphotusw


BA mewn Ffotograffiaeth (Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr)

Mae’r staff yn Ysgol Gelf Caerfyrddin wedi creu’r arddangosfa rithwir uchelgeisiol hon i ddathlu cyflawniadau, creadigedd ac arloesi’r myfyrwyr blwyddyn derfynol ar bob un o’u cyrsiau Celf a Dylunio. Gallwch weld ystod lawn o ddisgyblaethau yn yr oriel ddigidol sy’n 15,000 o droedfeddi sgwar, yn cynnwys cerameg, darluniad digidol, cerflunio ac, wrth gwrs, ffotograffiaeth. Gallwch hyn yn oed ysgrifennu yn eu llyfr sylwadau ar-lein.

Mae Huw Alden Davies, Cyfarwyddwr Rhaglen BA Ffotograffiaeth, yn dweud hyn yn ‘Golau’:

“Yn ogystal â chwblhau eu prosiect mawr cyntaf a chynhyrchu casgliadau llwyddiannus iawn o waith, mae pob ffotograffydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliad. Maent wedi creu eu ffotolyfrau, e-gronau a deunydd hyrwyddo eu hunain, ac yn ogystal â hynny maent oll wedi dod at ei gilydd i greu yr hyn a fydd y rhifyn cyntaf erioed o ‘Golau’. Mae’n e-grawn, neu yr hyn yr hoffem ei alw’n ddyddlyfr bohemaidd, sy’n cael ei chyhoeddi ddwywaith y flwyddyn, ac mae’n dathlu gwaith yr holl ffotograffwyr hyn, eu cydweithredu, a phopeth y maent wedi ei gyflawni. Yng nghyfnod astrus y pandemig byd-eang maent wedi wynebu’r her ac wedi ei gorchfygu, a bydd ‘Golau’ bob amser yn dystiolaeth ac yn symbol o’r cyflawniad hwn.”

Gallwch weld yr arddangosfa yma

Instagram: @photo_csoa



Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd wedi creu gwefan i gynnal yr hyn a fyddai fel arfer yn Sioe Haf y myfyrwyr. Mae’r safle’n dangos gwaith gan fyfyrwyr ar draws y disgyblaethau i gyd, gan gynnwys Ffotograffiaeth, Cyfathrebu Graffig, Darlunio a Chelfyddyd Gain. Maen nhw hefyd wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau, yn cynnwys Her Greadigol Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, a sgyrsiau gan artistiaid y gallwch eu gweld ar IGTV yma.

Mae’r Athro Olwen Moseley, Deon Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn dweud hyn:

“Mae’r garfan sy’n graddio eleni wedi ennyn ein hedmygedd am y ffordd y maen nhw wedi addasu ac ymateb i greu rhywbeth gwahanol i’r arfer ar fyr rybudd. Nid yn unig y maen nhw wedi casglu eu gwaith i’w rannu gyda ni mewn sioe raddio rithwir, ond maent hefyd wedi creu cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu eu cyflawniadau. Mae’n debyg na ddylai hyn fod yn syndod, am eu bod wedi dysgu mewn amgylchedd sy’n rhoi pwys mawr ar y gallu i addasu, datrys problemau a chreadigedd. Mae ganddyn nhw hefyd gymorth tîm gwych o staff sydd hefyd wedi addasu ac arloesi.”

Ewch i’r wefan yma

Instagram: @cardiffmetcsad


Coleg Celf Abertawe (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

Ar hyd yn un llinellau, mae Coleg Celf Abertawe wedi cynhyrchu’r wefan raenus hon i arddangos y gwahanol gyrsiau, gan roi ei dudalen bortffolio ei hun i bob myfyriwr graddedig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd draw i dudalen Instagram y cyrsiau ffotograffiaeth lle mae myfyrwyr wedi bod yn meddiannu’r cyfrif yn ddiweddar i roi cipolwg pellach ar eu prosiectau terfynol.

Mae’r wefan yn nodi yn yr adran Ffotograffiaeth:

“Mae ethos y ddau gwrs ffotograffiaeth ar y cyd yng Ngholeg Celf Abertawe wedi ei gorffori’n amserol wrth i’r artistiaid a’r gweithredwyr eginol hyn wynebu a chwestiynnu’r prosesau a’r systemau presennol er mwyn llunio a siapio strategaethau newydd ar gyfer actifiaeth weledol, ffotograffiaeth ddogfennol a chelfyddyd ffotograffig.

Er gwaethaf y cyfyngiadau presennol, hoffai’r staff longyfarch y myfyrwyr am gynhyrchu casgliadau o waith sydd mor ddiddorol a heriog, a hoffent ddymuno pob llwyddiant iddynt ar eu teithiau i’r dyfodol.”

Gallwch weld y wefan yma

Instagram: @ffoto_swansea