Sianel / 23 Rhag 2020

Newyddlen mis Rhagfyr

Myfyrio ar flwyddyn bwysig iawn

The Place I Call Home, Llundain, Mawrth 2020

Wrth i 2020 ddod i ben, hoffwn gymryd munud i ddathlu cyflawniadau tîm Ffotogallery, yr artistiaid, y cynhyrchwyr creadigol a’n partneriaid a chefnogwyr niferus drwy’r byd i gyd.

Er gwaethaf heriau’r pandemig byd-eang, eleni aethom ati i arddangos The Place I Call Home yn Llundain, Caeredin, Bahrain, Saudi Arabia a’r Emiraethau Arabaidd Unedig, gydag adnoddau ar-lein ac mewn print i gyd-fynd ag o. Teithiodd yr arddangosfa Nifer o Leisiau, Un Genedl o Aberystwyth i Ferthyr, a phan rwystrwyd y sioe rhag agor yng Ngaleri Caernarfon fis Mai oherwydd y pandemig, aethom ati i gyflwyno gwaith y chwe artist a gomisiynwyd sydd wedi’u seilio yng Nghymru ar ein platform rhithwir https://ffotoview.org/

Yn hwyr ym mis Ionawr, cynhaliwyd Diwylliannau Glo, sef penwythnos o sgyrsiau, sgriniadau ac arddangosfeydd oedd yn taflu golau ar natur y byd a grëwyd gan lo ac oedd yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o fyd digarbon. Roeddem wrth ein boddau’n cyflwyno ffilm eiconig Jeremy Deller The Battle of Orgreave, gwaith David Severn The Pit of Nations - Portraits of Black British Coal Miners a The Coal Face gan Richard Jones.

Yn rhan o brosiect Creative Europe, A Woman’s Work, cyflwynodd Ffotogallery Work to be Done, sef arddangosfa wedi’i churadu gan y deuawd o’r Ffindir, Whack ‘n’ Bite, i arddangos gwaith gan bum artist Nordig sy’n herio’r ystrydebau am y rhywiau, y cartref a’r gweithle. Gallwch weld taith rithwir o’r arddangosfa ffisegol hon yma

https://www.cultvr.cymru/work-to-be-done-ffotogallery/ Mae ein partneriaid yn Iwerddon a Lithwania wedi parhau i gynnal arddangosfeydd A Woman’s Work, sesiynau lansio llyfrau a symposia drwy gydol 2020, gan gyfuno dulliau ffisegol a rhithwir o gyfranogi er mwyn i artistiaid a chynulleidfaoedd orchfygu heriau’r cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau ar bobl yn ymgasglu ac ar deithio rhyngwladol.

Yn ystod y cyfnod clo, casglodd tîm Ffotogallery gynnig wythnosol o weithgareddau creadigol ac adnoddau ar-lein i bobl eu mwynhau gartref. Drwy gyfrwng ein partneriaeth gyda Chennai Photo Biennale, gallem gyd-gomisiynu tri ffotograffydd yn India a dau yng Nghymru i greu gwaith newydd i’w gyflwyno yn Diffusion yn Hydref 2021 ac yn Chennai ym mis Rhagfyr. Rydym wedi bod yn cefnogi nifer o artistiaid eraill, yn rhai Prydeinig a rhai rhyngwladol, i ddatblygu prosiectau a fydd yn dwyn ffrwyth yn 2021/22.

Ym mis Medi, aethom ati i wahodd pobl broffesiynol o’r byd ffotograffeg ledled Cymru i enwebu ffotograffwyr, myfyrwyr ac artistiaid y mae eu gwaith yn cynnig gwahanol gipolygon ar fywyd cyfoes, gan gynrychioli ehangder y dalent yng Nghymru sy’n haeddu mwy o sylw. Dewiswyd deuddeg artist o gefndiroedd amrywiol ledled Cymru, i adlewyrchu amrywiaeth eang o bynciau a gwahanol agweddau ar ffotograffeg. Ar ôl gwneud gwelliannau i’n horiel a’n hadnoddau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i staff ac ymwelwyr, cawsom ail agor ein drysau eto’n fyr gyda Nifer o Leisiau, Un Genedl 2, arddangosfa sy’n cyflwyno golwg fwy optimistaidd ar ddyfodol ein cenedl. Gynted ag y bydd y cyfnod clo presennol ar ben, edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Ffotogallery i weld y sioe a defnyddio ein llyfrgell a’n hadnoddau.

Mae cyfnodau o ansicrwydd yn gallu rhoi’r momentwm i ni i ddod â newid cadarnhaol. Ychydig iawn o bobl fyddai wedi rhagweld digwyddiadau 2020, a llai fyth yr effaith a gafodd yr argyfwng iechyd byd-eang hwn ar ein bywydau i gyd. Mae’r pandemig wedi datgelu mor fregus ac agored i niwed yw ein ecosystemau diwylliannol, ac mae hefyd wedi dangos mor bwysig yw diwylliant i’n bywydau a’n hunaniaeth. Mae diwylliant yn ein hangori yn y presennol ac yn gadael i ni ddychmygu’r dyfodol. Yn sicr iawn, mae’r argyfwng wedi dangos y cyfleoedd a roddir i artistiaid a chynhyrchwyr gan y technolegau digidol i gysylltu mewn ffyrdd newydd gyda chynulleidfaoedd ledled y byd.

Ein gweledigaeth yw y bydd pawb yn gallu mwynhau profiadau gweddnewidiol drwy ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i fynd ar ôl y nod hwnnw yn y flwyddyn newydd.

David Drake

Cyfarwyddwr, Ffotogallery

21 Rhagfyr 2020

Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 yn parhau ar-lein

Gallwch weld ein harddangosfa ddiweddaraf Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 ar-lein erbyn hyn drwy gymryd y daith rithwir ryngweithiol hon. Pan fyddwch yn teithio drwy’r oriel rithiwr gallwch ddarllen rhagor am waith yr artist, gwylio’r holl ddarnau fideo a gwrando ar gyfweliadau a recordiwyd gyda’r artistiaid hynny a lwyddodd i ymuno â ni ar gyfer agoriad yr arddangosfa yn gynharach ym mis Rhagfyr. Gallwch hefyd weld y cyfweliadau ar wahân yma.

Gynted ag y daw’r cyfnod clo presennol i ben, edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Ffotogallery i weld y sioe yn bersonol ac i ddefnyddio ein llyfrgell a’n hadnoddau.

Mwy o wybodaeth

A Woman’s Work

© Clare Gallagher

Mae’r prosiect A Woman’s Work yn parhau yn Gallery of Photography Ireland ac mae arddangosfa newydd sy’n dangos gwaith Clare Gallagher a Csilla Klenyánszki yn arddangos hyd 23 Ionawr 2021. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres Gallagher, The Second Shift a gwaith Klenyánszki, Pillars of Home. Er bod y prosiectau hyn wedi eu creu gyfnod hir cyn pandemig COVID-19 mae’r pandemig wedi rhoi gwedd newydd i’r prosiectau oherwydd ein perthynas newydd gyda’n gofod domestig, gan ei ddangos fel lle o loches a thiriogaeth wedi’i marcio gan densiynau annisgwyl. Mae cyhoeddiadau’r ddau artist ar gael i’w prynu ar-lein ac yn siop lyfrau’r oriel.

*Gwelwch eu gwefan am fanylion cyn teithio.

Mwy o wybodaeth

Yr artist dan sylw ym mis Rhagfyr

© Miriam O'Connor

Ar y thema A Woman’s Work, yr artist dan sylw fis yma yw Miriam O’Connor y mae ei phrosiect Tomorrow is Sunday newydd gael ei gyhoeddi fel llyfr gan Gallery of Photography Ireland (ar gael i’w brynu yma).

Mae Tomorrow is Sunday yn ymwneud â dychweliad O’Connor i fferm y teulu yn dilyn marwolaeth ei brawd yn 2013. Datblygwyd y gwaith drwy gydol y cyfnod cyfamserol hwn, ac mae’n myfyrio ar alwadau bywyd dyddiol o ddydd i ddydd ac yn ystyried rôl ffotograffiaeth mewn cyfathrebu maint y digwyddiad hwn a newidiodd fywydau.

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd y byddech yn hoffi:



Arddangosfa Jo Spence yn agor yn Arnolfini

Os ydych yn ardal Bryste, mae Arnolfini yn cyflwyno astudiaeth ôl-syllol mawr o waith Jo Spence, a dynnwyd o Gasgliad Hyman. Gwelwch eu gwefan i gael manylion cyn teithio.

Mwy o wybodaeth

Podlediad A Photographic Life

Gydag archif o fwy na 130 o benodau, beth am wylio podlediadau A Photographic Life draw ar United Nations of Photography. Gallwch hefyd gadw llygad yn agored am bennod newydd bob Dydd Mercher.

Mwy o wybodaeth

Experimentica Presents: Galwad am artistiaid

Mae Chapter yn chwilio am artistiaid sydd wedi eu seilio yn y DU yr oedd eu harferion, cyn COVID, yn canolbwyntio ar gelfyddyd fyw neu berfformiad cyfoes, ac sydd angen cymorth i archwilio ffyrdd o addasu eu dull o wneud a rhannu eu gwaith.

Mwy o wybodaeth

Jerwood UNITe 2021

Mae G39 yn cefnogi pum artist ar y rhaglen breswyl naw wythnos UNITe 2021, mewn cydweithrediad â Jerwood Arts. Mae’n agored i artistiaid gweledol sydd ar gam cynnar yn eu gyrfaoedd beth bynnag yw eu cyfrwng celfyddydol.

Mwy o wybodaeth