Sianel / 22 Rhag 2022

Cylchlythyr mis Rhagfyr

Croeso i gylchlythyr olaf 2022!

Wrth i’r flwyddyn ddirwyn i ben, hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r staff, yr artistiaid, gwirfoddolwyr, partneriaid a chefnogwyr am ein helpu i ddarparu rhaglen lwyddiannus arall o arddangosfeydd, digwyddiadau a phrosiectau yn 2022.

Dymuniadau gorau’r tymor gan Dîm Ffotogallery.

Cau dros y Gwyliau

Bydd ein swyddfeydd ar gau ar gyfer gwyliau’r Nadolig o Ddydd Gwener 23 Rhagfyr hyd Ddydd Llun 2 Ionawr (yn gynwysedig). Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi’n ôl yn y Flwyddyn Newydd!

NEGES GAN EIN CURADUR

Mae’n destun tristwch gennym gyhoeddi y bydd Cynthia yn gadael ei rôl fel Curadur yn Ffotogallery, ond rydym yn edrych ymlaen at weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig iddi a dymunwn y gorau iddi.

Mae wedi bod yn brofiad gwych gweithio yn Ffotogallery, Rwyf wedi tyfu cymaint oherwydd yr holl heriau cyffrous ac ni fyddwn yn newid unrhyw beth nac yn ei gyfnewid am y byd. Does dim tîm gwell na’r tîm gwych sydd yn Ffotogallery, a byddaf yn eich colli chi i gyd yn fawr, Siân, Alex, Liz, Cath a Chloe.

Mae gen i lawer i’w ddysgu o hyd a chymaint i’w weld a’i ddefnyddio ac, fel pob taith wych…rwyf wedi penderfynu canolbwyntio ar fy ngwaith fy hun a gwneud PhD a dyma pam rwy’n gadael fy rôl fel Curadur yn Ffotogallery.

Credaf bob amser bod gwneud yn well na dweud, ac rwy’n teimlo’n ffodus ac wedi fy mendithio fy mod wedi cyfarfod a gweithio gyda chydweithwyr, artistiaid, curaduron a phobl broffesiynol sy’n gweithio mewn ffyrdd mor arloesol a blaengar.

I bob un ohonoch, diolch yn fawr am werthfawrogi ac estyn croeso mor gynnes i’r person swil a chreadigol yma o Kenya. Nid Hwyl fawr ond Wela i chi’n fuan (tuonane baadaye mewn Swahili).

Mwynhewch wyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

- Cynthia MaiWa Sitei.


FFOCWS YN YMESTYN I MEWN I 2023

Rydym wrth ein boddau cael ymestyn Ffocws i mewn i fis Ionawr 2023! Bydd yr arddangosfa’n cau ar 17 Rhagfyr, ac yn ail agor am gyfnod cyfyngedig o 2 wythnos ar 4 Ionawr.

Os nad ydych wedi gallu mynd draw i’r oriel hyd yn hyn, neu os ydych eisiau mwynhau’r arddangosfa eto, dyma eich cyfle!

Hoffem ddweud diolch o waelod calon i’r Ashley Family Foundation am eu cyllid hael i gefnogi rhaglen datblygu proffesiynol i’r deuddeg artist sydd dan sylw yn Ffocws. Rydym yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad i gefnogi’r celfyddydau a’r prosiectau sy’n dod â phobl at ei gilydd, i wneud eu cymuned yn lle gwell a mwy llawen.

Gyda’ch cymorth chi, byddwn yn darparu rhaglen 6 mis gynhwysfawr a soffistigedig i’r holl artistiaid yn y flwyddyn newydd sy’n dod. Trwy weithdai datblygu proffesiynol, sesiynau mentora, a sesiynau i gymheiriaid, byddent yn adeiladu cysylltiadau gwaith cryfion â phobl broffesiynol eraill yn y diwydiant celfyddydau gweledol, gan hefyd ddysgu a thyfu o fewn eu gwaith. Bydd y gweithdai’n cynnwys trafodaethau yn ymwneud ag ysgrifennu ceisiadau go iawn am gyllid i gynnig syniadau a gweithio gydag orielau, curaduron a sefydliadau eraill er mwyn cael cynulleidfa i’w gwaith ac er mwyn cyhoeddi eu gwaith.

Mwy o wybodaeth

WE ARE HERE, BECAUSE YOU WERE THERE

Ym mis Ionawr 2023, bydd hi’n bleser mawr gan Ffotogallery gyflwyno arddangosfa newydd We Are Here, Because You Were There, sef prosiect ar y cyd gan y ffotograffydd Andy Barnham a’r ymchwilydd Dr Sara de Jong. Mae’r gwaith yn defnyddio portreadau a dyfyniadau i ddogfennu profiadau cyfieithwyr o Afghanistan, a gyflogwyd gan y Fyddin Brydeinig ac a ddaeth i ailgartrefu’n ddiweddar yn y DU.

Mwy o wybodaeth

DEWIS GYMUNEDAU

Mae’r arddangosfa Dewis Gymunedau, sy’n agored yn awr yn Kochi-Muziris Biennale, yn cyflwyno prosiectau drwy’r lens gan artistiaid o India a Chymru. Pwy ydw i? Lle ydw i’n perthyn? Ydw i’n perthyn i gymuned? Ydw i’n perthyn i lawer? Dyma rai o’r cwestiynau o dan yr wyneb a ofynnwn drwy gyfrwng yr arddangosfa. Cafodd ei ddewis drwy alwad agored, ac mae’r prosiectau dan sylw yn gasgliad o archwiliadau haenog o’r syniad o gymuned. Mae’r arddangosfa yn rhan o raglen gwahoddiadau Kochi Muziris Biennale 2022 a bydd yn parhau’n agored hyd 10 Ebrill 2023.

Gallwch archwilio’r prosiect ymhellach drwy’r wefan isod.

Mwy o wybodaeth

THE FEMALE LINE GYDA ADEOLA DEWIS

Ar Ddydd Gwener 13 Ionawr 2023, bydd Ffotogallery yn cynnal digwyddiad gyda’r nos ar gyfer The Female Line gyda’r siaradwr gwadd Adeola Dewis.

Bydd y digwyddiad hwn, yn benodol i fenywod o liw, yn darparu ac yn creu lle diogel i ferched ddatblygu cysylltiadau ac ymatebion creadigol i faterion, syniadau a phryderon a rennir ganddynt, gyda siaradwr gwadd i ysbrydoli’r sgyrsiau.

Mae Adeola yn artist ac ymchwilydd. Mae hi’n hanu o Trinidad a Tobago, ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn perfformiadau diwylliannol defodol, gwerin a brodorol.

Mwy o wybodaeth

HER DYDDLYFR FFOTOGRAFFAU CODI CALON

Ymunwch â ni drwy gydol mis Ionawr ar gyfer Her y Dyddlyfr Ffotograffau i Godi Calon! Yn Ffotogallery rydym wrth ein boddau gyda dathliadau’r Nadolig! Ond gwyddom hefyd fod Ionawr, gyda’i ddyddiau oer a thywyll, yn gallu bod yn fis digon llwm ar ôl yr holl ddathlu. Felly, roeddem yn meddwl y byddai cynnal prosiect hwyliog i ganolbwyntio arno’n helpu i godi ein calonnau i gyd.

Byddwch yn creu dyddlyfr ffotograffau gyda phromptiau bob dydd i helpu gyda’ch lles ac i’ch ysbrydoli i edrych ar yr elfennau cadarnhaol o’ch cwmpas i gyd. Bob dydd, byddwn yn postio gair newydd fel prompt i greu ffotograff.

Mwy o wybodaeth


Efallai hefyd y byddwch yn mwynhau:


Gwobr Prosiect Menywod mewn Ffotograffiaeth

Mae Gwobr Sefydliad Parasol V&A Parasol i Fenywod mewn Ffotograffiaeth yn fenter flynyddol newydd a chyffrous wedi ei hymroddi i adnabod, cefnogi a hyrwyddo artistiaid arloesol sy’n ferched yn gweithio ym maes ffotograffiaeth gyfoes. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 22 Ionawr 2023

Mwy o wybodaeth

Gŵyl Ffoto Belfast: Cyflwyniad Agored BPF 2023

Mae Gŵyl Ffoto Belfast yn cynnig cyfle i artistiaid/ffotograffwyr arddangos eu gwaith ym mhrif oriel yr Ŵyl ochr yn ochr â rhai o’r enwau mwyaf ym maes ffotograffiaeth. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: 3 Chwefror 2023

Mwy o wybodaeth


Gweithdai Dydd Mercher i Oedolion

Nod y Gweithdy Dydd Mercher i Oedolion yw gwella mynediad pobl hŷn i’r celfyddydau. Nod y grŵp yw hyrwyddo annibyniaeth, hyder cymdeithasol a sgiliau creadigol drwy amgylchedd cefnogol i aelodau hen a newydd. Bob Dydd Mercher, 1-3pm.

Mwy o wybodaeth

BBC 100 yng Nghymru

Ewch draw i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i archwilio 100 mlynedd o hanes y BBC yng Nghymru. O’i enedigaeth yn yr 1920au, i’r oes ddigidol newydd, cewch weld sut mae Cymru wedi cyfrannu at, a sut mae’n parhau i gyfrannu at wneud y BBC.

Mwy o wybodaeth