Sianel / 14 Hyd 2021

Post Blog y Cyfarwyddwr – Medi 2021

Cefndir i’r Dewisiadau a Wnawn

Wrth i ni lansio Diffusion fis yma, mae nifer o bobl yng Nghymru wedi gofyn i mi sut mae Ffotogallery yn penderfynu pa artistiaid a chyrff o waith i’w cyflwyno. Fel uwch guradur a chyfarwyddwr artistig yn Ffotogallery, rwy’n hapus i drafod y materion hyn a chynghori artistiaid ar unrhyw gam o’u gyrfa ynglŷn â beth yw’r ffordd orau o ddatblygu eu gwaith a’i gyflwyno i gynulleidfaoedd mewn arddangosfa neu brint neu ar-lein.

Yr ateb byr i’r cwestiwn hwn yw bod y penderfyniadau rhaglennu a wnawn ni wedi eu seilio ar nifer o ffactorau sy’n cyd-blethu. Ar gyfer Nifer o Leisiau, Un Genedl roeddem wedi gwneud galwad agored yn Diffusion 2019 gyda’r Senedd, ac yn 2020 gwahoddais arweinwyr ffotograffiaeth leded Cymru i enwebu dau neu dri o dalentau cynyddol amlwg oedd yn haeddu mwy o sylw. Aethom ati i ddewis y prosiectau gan yr 20 artist ar sail ansawdd eu gwaith a pha mor berthnasol oedd eu pynciau yn y cyfnod cyfoes. Wrth wneud y detholiad terfynol, roeddem yn ceisio cael cydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth a chynrychioliad cydradd o artistiaid a ffotograffwyr o wahanol ranbarthau o Gymru.

Roedd Go Home Polish Michal Iwanowski, Tir/Môr Mike Perry, Green Dark Zillah Bowes, Unseen Suzie Larke, Tin Works Hilary Powell, <Truth DeQay> Richard Jones, Atomic Ed Janire Najera a Motherland Maryam Wahid yn brosiectau a ddaeth i fodolaeth yn dilyn misoedd lawer, ac mewn rhai achosion flynyddoedd lawer, o gynghori, cefnogi, deialog ac
anogaeth.

Yn ystod y cyfnod clo, cefais gannoedd o gyfarfodydd ar-lein a wyneb yn wyneb gydag artistiaid a phartneriaid creadigol, gwnes adolygiadau portffolio a dechrau cydweithredu’n ddigidol gydag India, Affrica, Ewrop, Awstralia, y Dwyrain Canol a Chyfandiroedd America. Dyma rai esiamplau o’r cydweithio rhyngwladol a fu’n bosibl diolch i’r offer a’r platfformau digidol oedd ar gael i ni: y pum comisiwn Dychmygu’r Aelod-wladwriaeth rhwng India a Chymru, Truth in Fire Tim Georgeson, Where’s My Space?, The Place I Call Home, A Woman’s Work, gwaith Mary Farmilant Natura Consonat a

Holding On Lydia Panas, ynghyd ag arddangosfa More Than a Number gan 12 o artistiaid Affricanaidd, wedi ei churadu’n wych gan ein Cynhyrchydd Creadigol Cynthia Sitei.

Yn fy ngwaith fel Cyfarwyddwr Ffotogallery dros y 13 mlynedd diwethaf rwyf bob amser wedi hyrwyddo gwaith newydd a syniadau newydd, gan ddod â gwaith rhyngwladol cyffrous a pherthnasol i Gymru, a galluogi i artistiaid sydd wedi eu seilio yng Nghymru gael mwy o sylw’n rhyngwladol. Fy null i yw plymio’n ddwfn i’r maes, mor aml ag sy’n bosibl, gan fynd i sioeau myfyrwyr ac artistiaid sefydledig a gwyliau a digwyddiadau rhyngwladol. Rwy’n ymchwilio’n eang, yn teithio ymhell ac agos i weld gwaith, ac yn darllen yn frwd fel y gallaf fyfyrio ar, a chyfrannu at, y dadleuon cyfredol mewn ffotograffiaeth. Rwyf bob amser yn awyddus i siarad ag artistiaid am eu gwaith a derbyn argymhellion gan fy nghyfoedion.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae ffotograffiaeth yng Nghymru wedi gweld math o ddadeni. Nid yn unig yn nhermau’r nifer o artistiaid ffotograffiaeth talentog sy’n weithredol ac sy’n arddangos eu gwaith, gartref a thramor, ond hefyd oherwydd y traws-beillio syniadau a’r dulliau ffrwythlon a dyfeisgar. Mae’r ymraniadau traddodiadol rhwng celf ddogfennol a chelfyddyd gain, ffasiwn a ffoto-newyddiaduraeth wedi diflannu. Heddiw, mae’r cyfrwng
ffotograffig, yn amlach na pheidio, yn cael ei gyfuno â thestun a’r gair llafar, y ddelwedd symudol, cerddoriaeth ac hyd yn oed elfen o berfformiad. Fel arfer, mae’r gwaith celf yn cael ei gyflwyno mewn print ac yn electronig, gan fodoli ar yr un pryd yn yr oriel, ar y dudalen ac ar draws amrywiol blatfformau cyfryngau cymdeithasol ac ar y we.

Mae’r gwaith ffotograffig cyfoes mwyaf cyffrous sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru’n osgoi’r duedd o gyfleu hiraeth ac ysmaldod sydd wedi dominyddu ffotograffiaeth Brydeinig dros y deng mlynedd ar hugain ddiwethaf. Mae’n dewis peidio edrych yn ôl yn hiraethus ac afrealistig ar hynodweddau dosbarthiadau cymdeithasol a diwylliant, ac mae’n mynd i’r afael â materion mwyaf argyfyngus y dydd, mewn perthynas â chynrychioli, gwahaniaethau cymdeithasol ac economaidd, iechyd a lles, cyfrifoldeb amgylcheddol, amrywiaeth a chynhwysiad. Yn fwy na dim, mae’n waith sy’n mynd ati’n feirniadol i archwilio’r berthynas rhwng hunaniaeth a chenedligrwydd, gan ddatgelu nid yn unig beth sy’n ein rhannu ni, ond hefyd y rhwymau sy’n ein clymu ynghyd fel cenedl.

David Drake, 30 Medi 2021