Sianel / 15 Rhag 2021

Post Blog Terfynol y Cyfarwyddwr - Rhagfyr 2021

Wrth i’m daliadaeth fel Cyfarwyddwr Ffotogallery ddod i ben, rwyf wedi bod yn ystyried sut mae ein gwaith wedi newid ers i mi gyrraedd ym mis Mawrth 2009. Cyrhaeddais ar adeg pan oedd popeth yn edrych fel petai ar gael o ran orielau ffotograffiaeth, ac orielau yn gyffredinol, oedd heb y monopoli bellach ar arddangos. Roedd nifer cynyddol o fentrau wedi eu harwain gan artistiaid ynghyd â gweithgareddau dros dro, yn ehangu arferion ffotograffig y tu hwnt i’r pedwar wal, boed mewn mannau ar-lein, drwy ffotolyfrau artistiaid neu mewn meysydd eraill o waith. Roedd y tirlun ffotograffig wedi newid yn ddramatig ac roedd yn parhau i esblygu, yn arbennig y berthynas rhwng ffotograffiaeth ddogfennol ac arferion celfyddyd gain eraill, a rhwng y llun sy’n symud a ffotograffiaeth lonydd. Roedd technolegau digidol yn cynnig mathau creadigol newydd a ffyrdd newydd o ennyn diddordeb cynulleidfaoedd, gyda theimlad cynyddol o gysylltiad byd-eang.

Cychwynnais yr ŵyl Diffusion eilflwydd i adlewyrchu’r newidiadau hyn ac i ail ddychmygu sut y byddai gŵyl ffotograffiaeth ar gyfer y 21ain Ganrif yn edrych – un sy’n gwbl ryngwladol ei maint a’i huchelgais ond sydd eto wedi ei gwreiddio yn y cyd-destun Cymreig. Dros bum gŵyl lwyddiannus rydym nid yn unig wedi archwilio’r tirlun diwylliannol sy’n esblygu, ond hefyd wedi cyflwyno gwaith gwych o bum cyfandir mewn lleoliadau celf oedd yn bodoli’n barod a mannau a lleoedd amrywiol newydd y ‘cafwyd hyd iddynt’.

Rwy’n arbennig o falch o’n hymgysylltiad Ewropeaidd. Cychwynnodd hyn yn 2010 gyda phrosiectau dwyochrog â sefydliadau yn Ffrainc, Lithwania, Yr Almaen a Gweriniaeth Tsiec. Blodeuodd y rhain yn rhwydwaith ffotograffiaeth pan-Ewropeaidd, ynghyd â nifer o arddangosfeydd, trefniadau preswyl, llyfrau, symposia a deialogau yn ymwneud â rôl ffotograffiaeth mewn cynrychioli’r hunaniaeth Ewropeaidd newidiol. Mae wedi galluogi i artistiaid a ffotograffwyr sydd wedi eu seilio yng Nghymru, fel Helen Sear, Huw Davies, Clementine Schneidermann, Michal Iwanowski, James Morris a Paul Cabuts arddangos yn Ewrop a chael mwy o welededd rhyngwladol.

Gyda’r cydweithio rhyngwladol hirdymor ag artistiaid a sefydliadau yn Affrica, Asia, y Dwyrain Canol a Gogledd America, mae gwaith Ffotogallery wedi cyrraedd cyrchfannau ymhellach i ffwrdd, wedi ysgogi cyfnewid rhyng-ddiwylliannol ac hefyd wedi rhoi’r cyfle i gynulleidfaoedd o Gymru weld gwaith ffotograffig rhagorol o bob rhan o’r byd.

Roedd canfod cartref parhaol i Ffotogallery yn daith o ddeng mlynedd erbyn y diwedd, gyda throeon trwstan a rhwystrau ar y ffordd, ond yn 2019 cyflawnwyd y nod hwnnw. Rwy’n disgrifio canolfan Ffotogallery yng Nghaerdydd fel ein ‘hystafell gynhyrchu a’n hystafell arddangos’ - man lle mae syniadau newydd a phrosiectau creadigol yn cael eu cynhyrchu gyda phresenoldeb mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt, a hefyd safle lleol croesawgar sy’n cynnig cyfleoedd i gael eich ysbrydoli drwy gyfarfod â ffotograffiaeth gyfoes.

Wrth i mi ymadael â’m swydd, rwy’n edrych ymlaen at weld llawer mwy o arddangosfeydd, prosiectau a digwyddiadau gwych yn cael eu darparu gan ein tîm egnïol o dan arweiniad ffres. Mae newid yn beth da bob amser, daw â syniadau a safbwyntiau newydd gydag o, ac fel y dywedodd William Shakespeare ‘nid yn ein sêr y mae ein tynged, ond ynom ni ein hunain’.

David Drake

Cyfarwyddwr, Ffotogallery

Rhagfyr 2021