Sianel / 7 Meh 2018

Cyhoeddiad Dreamtigers

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi lansio’n cyhoeddiad diweddaraf, sy’n nodi terfyn ein project India-Cymru, Dreamtigers, a gynhaliwyd o fis Ionawr 2017 tan fis Mehefin 2018.

Mae Dreamtigers yn broject lle bu artistiaid a gweithwyr diwylliannol eraill o India a Chymru yn cydweithio ar greu a chyflwyno gwaith newydd sy’n adlewyrchu sut y mae creadigrwydd, technoleg ac ymdeimlad newydd o hunaniaeth genedlaethol yn llunio bywydau cenedlaethau sydd i ddod yn y gymdeithas fyd-eang.

Yn ystod cyfnod o ymchwilio dwys trwy gyfrwng rhaglen Dreamtigers India-Cymru, sefydlodd Ffotogallery ddialog rhwng disgyrsiau creu-delweddau yng Nghymru ac India heddiw, gan gydweithio’n glos â churadwyr yn Delhi a Chaerdydd. Y nod oedd archwilio tystiolaeth o newid diwylliannol a ddisgrifiwyd gan ein partneriaid Indiaidd fel ‘symud o fod yn gymdeithas sy’n ymostwng i’w ffawd i fod yn un uchelgeisiol’ wrth i dechnoleg, globaleiddio a datblygu economaidd ddod â newid cymdeithasol carlamus i India. Mewn ymateb, mae Ffotogallery yn holi a ellir dweud yr un peth am Gymru heddiw, neu a ydym wedi symud o ddyheu, ar lefel unigol a thorfol, am fyd gwell, tuag at dderbyn ein tynged yn oddefol yn wyneb llywodraeth ansefydlog, rhaniadau cymdeithasol ac ansicrwydd ynglŷn â’n dyfodol ar ôl Brexit?

Menter ar y cyd oedd Dreamtigers rhwng Ffotogallery a Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffotograffiaeth Delhi.


Bydd y gyfrol Dreamtigers ar gael i’w phrynu yn yr oriel cyn bo hir.