Sianel
/ 25 Ebr 2022
Arddangosfeydd yn Dychwelyd yng Nghanol Mehefin
Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi, ar ôl ychydig o waith gwella hanfodol yn yr oriel, y bydd rhaglen arddangosfeydd Ffotogallery yn ail gychwyn yng nghanol Mehefin, wedi i’n Cyfarwyddwr newydd, Siân Addicott, gychwyn yn ei swydd ar Ebrill y 1af.
Ond, peidiwch â phoeni, byddwn yn dal i gynnal nifer o ddigwyddiadau hyfryd cyn hynny, gan gynnwys noson y gair llafar ‘Dancing Thoughts’, 3 trafodaeth ddiddorol ar gyfer yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a diwrnod gweithgareddau lles ym mis Mai.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi’n ôl i’n safle, gan ddarparu lle i fwynhau sgyrsiau newydd, safbwyntiau ffres ac arddangosfeydd diddorol.
Llun © Panoptic Photography