Sianel / 26 Chwef 2021

Newyddlen mis Chwefror

Dewch i bori yn ein siop lyfrau newydd ar-lein

Mae’n braf iawn gennym gyhoeddi bod ein siop lyfrau ar-lein newydd sbon yn fyw erbyn hyn! Rydym wedi dewis nifer o deitlau o’n casgliad ac maen nhw ar gael i’w prynu ar-lein. Byddwn yn ychwanegu rhagor o deitlau dros y misoedd nesaf, ond yn y cyfamser beth am bori drwy rai o’r cyhoeddiadau a gynigiwn, neu fanteisio ar ein Harwerthiant Blwyddyn Newydd, lle mae hyd at 50% o ostyngiad ar rai eitemau penodol.

SIOP

Ffotograffiaeth a…

Yn dilyn llwyddiant ein cynnig Ffotograffiaeth ac Iaith ar y we yr Hydref diwethaf rydym yn trefnu cyfres newydd o ddigwyddiadau ar-lein ar ddull ‘Ffotograffiaeth a….’ ac yn gwahodd artistiaid a phobl broffesiynol o amgylch y byd i gyd i ymuno â thrafodaethau am rôl ffotograffiaeth yn y byd heddiw.

Rydyn ni’n cychwyn y gyfres gyda Ffotograffiaeth ac A Woman’s Work, sy’n digwydd ar Ddydd Iau 18 Mawrth am 2pm. Yn ymuno â ni fydd artistiaid, curaduron a phartneriaid a gymerodd ran yn y prosiect dwy flynedd gan Creative Europe a aeth ati i ddatblygu dealltwriaeth newydd drwy ffotograffiaeth o dirlun newidiol y rhywiau a swyddi, gan ysgogi dadl am y materion cyfoes sy’n wynebu Ewrop.

Yn boeth o’r wasg, mae’r cyhoeddiad etifeddol A Woman’s Work ar gael i’w brynu yma.

Rhagor o fanylion cyn hir.

Archebu Nawr

Yr artist dan sylw ym mis Chwefror

Mae Maryam Wahid (a aned yn 1995) yn artist lawrydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei gwaith yn archwilio ei hunaniaeth fel merch Fwslimaidd Bacistanaidd Brydeinig ac mae hi’n mynegi gwreiddiau’r gymuned Bacistanaidd yn ei thref enedigol Birmingham (DU) drwy archwilio gwreiddiau dwfn ei theulu; ac integreiddiad torfol ymfudwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae ei chefndir academaidd mewn Celf, Ffotograffiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, ynghyd â’i diddordeb cyfareddol mewn gwybyddiaeth ddiwylliannol ac ideolegau crefyddol wedi dylanwadu’n gynyddol ar ei gwaith. Mae ei gwaith yn archwilio’r hunaniaeth fenywaidd, hanes y gymuned Dde Asiaidd ym Mhrydain a’r syniad o gartref a pherthyn.

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd y byddech yn hoffi:


Dy Lais: Galwad Agored

Gwahoddir artistiaid sy'n gweithio ar draws pob cyfrwng celf weledol i gyflwyno cynigion ar gyfer gwaith celf newydd ar thema Dy Llais, gwaith celf i bobl Cymru gan bobl Cymru. Bydd y gwaith yn rhan o'r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau i nodi agor y chweched Senedd yn dilyn etholiad y Senedd.

Mwy o wybodaeth

Gŵyl 2021

Mae Gŵyl y Llais, Lleisiau Eraill Ceredigion, FOCUS Wales a Gŵyl Gomedi Aberystwyth wedi uno i ddod â Gŵyl 2021 i ni, sef gŵyl ar-lein rad ac am ddim fydd yn orlawn â cherddoriaeth a chomedi. Bydd Gŵyl 2021 yn cael ei darlledu ar-lein ar y BBC drwy gydol penwythnos 6-7 Mawrth 2021.

Mwy o wybodaeth


Galwad am Ffotograffau – yr Arddangosfa Ffotograffiaeth Ryngwladol

© Catherine Hyland, Lithium Mining IV

Mae’r Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol yn gwahodd ffotograffwyr o bob oedran a gallu i gyflwyno eu lluniau i’r 163ain Arddangosfa Ffotograffiaeth Ryngwladol. Bydd yr ymgeiswyr yn gymwys hefyd i dderbyn nifer o wobrau arwyddocaol.

Mwy o wybodaeth

FOR Cardiff - #CreativesOfTheCapital

Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni bydd FOR Cardiff yn arddangos crewyr creadigol ifanc Caerdydd mewn arddangosfa gelf ddigidol ar draws eu sianelau cyfryngau cymdeithasol. Maen nhw wedi comisiynu 10 o grewyr lleol 18-25 oed i adrodd stori Caerdydd, a bydd y darnau terfynol yn cael eu datgelu ar 1 Mawrth mewn arddangosfa Dydd Gŵyl Dewi rithiol.

Mwy o wybodaeth