Sianel / 28 Chwef 2023

Cylchlythyr mis Chwefror


We Are Here, Because You Were There yn parhau...

Rydym fwy na hanner ffordd drwy ein harddangosfa bresennol, a dim ond rhai wythnosau sydd ar ôl i’w gweld yn bersonol. Ond, rydym yn deall na fydd pawb yn gallu mynd i’r oriel o fewn yr amser hwnnw, a dyna pam rydym eisiau rhoi gwybod i chi y gallwch ymweld â’r arddangosfa ar-lein yn awr drwy’r daith rithiol 360° hon. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw clicio ar y lluniau a’r testun er mwyn ymgolli yn y gwaith.

Os ydych wedi bod i weld yr arddangosfa’n barod, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr iawn – llenwch yrarolwg ar-lein hwn i’n helpu i gasglu gwybodaeth a safbwyntiau a fydd yn ein helpu wrth gynllunio digwyddiadau ac arddangosfeydd y dyfodol.

Mwy o wybodaeth

Canu mewn Undod

Yn rhan o’r rhaglen barhaus o ddigwyddiadau sy’n cefnogi ein harddangosfa gyfredol We Are Here, Because You Were There, rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni ar Ddydd Mercher 8 Mawrth ar gyfer perfformiadau arbennig gan Choir with No Name a One World Choir.

Mae Choir with No Name yn sefydliad drwy’r DU gyfan sy’n cynnal corau i bobl ddigartref a phobl wedi eu hymyleiddio.

Mae One World Choir yn brosiect a redir gan Oasis Cardiff lle daw gwirfoddolwyr o’r gymuned leol yn ogystal â’r gymuned ffoaduriaid a’r rhai sy’n ceisio lloches.

Mwy o wybodaeth

© Dylan Lewis Thomas

Pink Portraits Revisited

Mae’r genhedlaeth nesaf o bobl LHDTC+ broffesiynol sy’n gweithio tu ôl i’r camera mewn ffilm a theledu’n cael eu dathlu yn ystod Mis Hanes LHDT+ 2023 gyda deg portread newydd a dynnwyd gan y ffotograffydd o Gymru, Dylan Lewis Thomas. Cafodd Dylan ei ddewis o blith nifer fawr o geisiadau safonol iawn yn ein galwad agored ar gyfer Pink Portraits y llynedd.

Cynhyrchir y prosiect hwn gan Ŵyl Gwobr Iris mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Ffotogallery a Phrifysgol De Cymru.

Mwy o wybodaeth


Prosiectau Myfyrwyr ar gyfer Dewis Gymunedau

Mae myfyrwyr ledled India a Chymru wedi derbyn gwahoddiad i greu gwaith mewn ymateb i’r prosiect Dewis Gymunedau. Mae’n bleser gennym rannu pedwar prosiect newydd a grëwyd gan fyfyrwyr o Sefydliad Technoleg Madras yn India sy’n gwneud MA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac sydd wedi cofrestru ar gyfer y dosbarth “Gweithiau Ysgrifennu Newydd ac Ôl-drefedigaethol”. Agorwch y ddolen isod i weld y pethau maent wedi bod yn gweithio arnynt.

Mwy o wybodaeth

© David Drake

Ffair Lyfrau Ffotograffau – cadwch y dyddiad yn rhydd

Yn dilyn llwyddiant ein ffair lyfrau ddiwethaf ym mis Hydref 2022, mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd ein ffair nesaf ar Ddydd Sadwrn 22 Ebrill – felly cadwch y dyddiad yn rhydd!

Er ein bod wedi dechrau cadarnhau pwy fydd rhai o’r dalwyr stondinau, rydym yn chwilio am werthwyr newydd a chyffrous i ymuno â ni ar y diwrnod. Cysylltwch ag [email protected] i ddangos bod gennych ddiddordeb (yn dibynnu ar argaeledd).

Rhagor o fanylion i ddod…

Mwy o wybodaeth

© Valentine Bo

Ukrainian.Photographies: Where Do We Go From Here?

Mae ein Prentis Creadigol Chloe Davies wedi bod yn gweithio gyda Ukrainian.Photographies i ofalu am arddangosfa ar-lein sy’n cynnwys pedwar ffotograffydd o’r Wcráin: Valentine Bo, Pavlo Borschenko, Olena Bulygina a Nazar Furyk.

Meddai Chloe: “Mae gwaith y pedwar artist yma’n orlawn â chysyniadau amrywiol, ac eto mae’r syniad o gysylltiad ag amser wedi ei wreiddio o dan yr wyneb drwy’r lluniau i gyd. Mae’r artistiaid yn cynnig golwg clos a phersonol ar eu dychymyg, eu profiadau a’u harsylwadau drwy adrodd straeon gweledol, ac mae’r rhain i gyd yn ysgogi’r meddwl.”

Mae Ukrainian.Photographies yn blatfform ar-lein a ddatblygwyd ac a redir gan bobl greadigol a churaduron o Wcráin, sy’n sefyll ysgwydd yn ysgwydd â churaduron, academyddion a chefnogwyr o Ewrop i sicrhau bod celf a diwylliant gweledol cyfoes o Wcráin yn wydn a gweledol.

Mwy o wybodaeth

Efallai yr hoffech y rhain hefyd:


Te a Theisen Dydd Mawrth

Dyddiad arall i’w ychwanegu i’ch dyddiadur: mae’r Dydd Mawrth Te a Theisen nesaf ar 7fed Mawrth 2023, am 11-1pm.

Mwy o wybodaeth

Gŵyl Ffotograffau Small File

Mae’r Ŵyl Ffotograffau Small File yn ŵyl fechan sy’n annog a dathlu ffotograffiaeth mewn meintiau bach! Mae diwydiant y cyfryngau’n gwthio am eglurdeb gwell gan gynyddu allyriadau a’r effaith gyffredinol ar yr amgylchedd. Yn y cyfamser, mae lluniau llai yn cynnig gwell hygyrchedd a chylchrediad, yn ogystal, ag amrediad cyffrous ac amrywiol o bosibiliadau esthetig i’w harchwilio. Nod yr ŵyl hon yw annog pobl i arbrofi gyda fformatau delweddau digidol mwy effeithlon a’u nodweddion gweledol penodol.

Mwy o wybodaeth


Comisiynau Dyfodoliaeth Llawrydd – Llawryddion Celfyddydol Cymru

Nod Llawryddion Celfyddydol Cymru yw codi lleisiau llawryddion yn uwch a rhoi cyfle iddynt siapio dyfodol eu diwydiannau.

Os ydych wedi dymuno newid eich diwydiant erioed am eich bod yn gallu gweld yn union beth sydd angen newid o’r tu mewn, ond rydych angen pethau fel cymorth, gofod, rhwydweithio ac ariannu er mwyn cychwyn, dyma’r grant i chi!

Dyddiad cau: 8 Ebrill 2023

Mwy o wybodaeth

#CofleidioTegwch ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023

I ddathlu’r diwrnod ymwybyddiaeth byd-eang, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn cynnal digwyddiad ar Ddydd Sadwrn 11 Mawrth o 10 am – 4 pm. Bydd Glan yr Afon yn croesawu pawb o bob oedran i ymuno â nhw i fwynhau diwrnod yn llawn o gerddoriaeth, gweithdai, siaradwyr gwadd sy’n ysbrydoli, a mwy!

Mwy o wybodaeth