Sianel / 4 Gorff 2019

Mae gan Ffotogallery Gartref Newydd

Mae gennym newyddion cyffrous iawn i’w rannu â chi – mae gan Ffotogallery gartref newydd. Ers 4 Mehefin 2019, mae’r cyn Ysgol Sul Fethodistaidd ar Fanny Street yn Cathays, Caerdydd wedi dod yn gartref tymor hir newydd i Ffotogallery, yr asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol i Gymru.

Llofnodwyd les deng mlynedd ac rydym wrthi’n ymgartrefu yn ein lle newydd. Rydym yn paratoi ar hyn o bryd i symud ein swyddfa, llyfrgell ac archif, cyfleusterau cynhyrchu ac adnoddau addysgol i mewn i’r adeilad. Bydd y gwaith cychwynnol o osod yr arddangosfa newydd a’r mannau digwyddiadau, caffi cymunedol a siop lyfrau’n digwydd dros y chwe mis nesaf, a bydd yn agor yn llawn yn hwyr yn 2019/yn fuan yn 2020. Yna byddwn yn datblygu cynllun tymor hirach ac ymgyrch godi arian i wneud y defnydd gorau posib o’r gofod er mwyn gosod ein gwaith ar flaen eithaf y datblygiadau newydd mewn cynhyrchu, cyflwyno a dysgu yn y cyfryngau ffotograffig, digidol a lens. Yr uchelgais yw nid yn unig greu cartref i Ffotogallery, ond cartref i ffotograffiaeth yng Nghymru.

Mae hi wedi bod yn daith hir, ond rydym wrth ein boddau gyda’r canlyniad. Mae’n llwyfan wych ar gyfer y deng mlynedd nesaf, a Ffotogallery wedi dathlu ei 40fed pen-blwydd yn 2018, a darparu’r bedwaredd gyfrol eilflwydd o Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd yn Ebrill 2019.

Rydym yn edrych ymlaen at wreiddio Ffotogallery yng nghalon bywyd diwylliannol y ddinas, mewn cymuned fywiog, amlddiwylliannol. Ein nod yw adeiladu ar y partneriaethau yr ydym wedi’u sefydlu – yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol – a datblygu perthynas newydd gydag amrywiaeth eang o fudiadau celfyddydol, addysgol a chymunedol a diwydiant creadigol wrth ddarparu ein rhaglen ar gyfer y dyfodol.

David Drake
Cyfarwyddwr, Mehefin 2019