Iris x Ffotogallery Galwad Agored: Portreadau Pinc
Mae Gwobr Iris mewn partneriaeth â Ffotogallery yn chwilio am ffotograffydd talentog i greu deg portread newydd o'r genhedlaeth nesaf o weithwyr ffilm a theledu proffesiynol yng Nghymru.
Bydd y portreadau'n cael eu harddangos fel rhan o Fis Hanes LHDTQ 2023, gan ddathlu’r thema 'Tu ôl i'r Lens' a fydd yn tynnu sylw at waith pobl y gymuned LHDTQ+ wrth gynhyrchu rhaglenni ffilm a theledu.
Yn 2011, comisiynodd Gwobr Iris ynghyd â Chyngor Ffilm y DU y ffotograffydd portreadau arobryn o'r Alban, Donald MacLellan, i dynnu lluniau 20 o weithwyr proffesiynol hoyw a lesbiaidd oedd yn gweithio o flaen a thu ôl i'r lens, gan gynnwys Simon Callow, Terence Davies, Stephen Fry, Phyllida Lloyd, Mark Gatiss, Briony Hanson, Sean Mathias, Syr Ian McKellen, Berwyn Rowlands, Sophie Ward a Syr Antony Sher.
Bydd y comisiynau newydd yn cyflwyno cyswllt uniongyrchol o waith yr arloeswyr hyn â rhai'r dyfodol.
Mae'r cyfle hwn yn agored i holl ffotograffwyr ifanc eu gyrfa gynnar sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ar hyn o bryd sy'n nodi eu bod yn LHDTQ+ neu sy'n gefnogwyr ac yn gynghreiriaid i'r gymuned.
I ymgeisio, cyflwynwch y canlynol drwy e-bost i Liz@ffotogallery.org:
- Eich enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost mewn dogfen Word.
- Detholiad o hyd at 10 ffotograff yn dangos eich sgiliau mewn portreadau (max. 72dpi, 1920 picsel o led)
- Cyflwyno datganiad neu fideo byr (hyd at 250 gair/3 munud o hyd) yn amlinellu eich diddordeb mewn gweithio ar y prosiect
- Datganiad artist/CV (uchafswm o 100 geiriau) gan gynnwys dolen i'ch gwefan / cyfryngau cymdeithasol, lle bo hynny'n berthnasol
Bydd y cyflwyniadau'n agor am 9am ddydd Gwener 18 Tachwedd 2022
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 11.59pm ddydd Iau 15 Rhagfyr 2022
Bydd ffi o £1,000 yn cael ei rhoi i'r enillydd.
Bydd costau teithio a chostau priodol eraill hefyd yn cael eu talu.
Os bydd dau ymgeisydd yn cael eu dewis, bydd y ffi yn cael ei rhannu 50/50 a bydd pob artist yn gwneud 5 portread.
Ni fydd delweddau a gyflwynir ar gyfer y cyfle hwn yn cael eu cyhoeddi, eu hatgynhyrchu neu eu rhannu fel arall y tu allan i Iris a Ffotogallery heb ganiatâd yr artist.
Am unrhyw gwestiynau neu wybodaeth bellach cysylltwch â Liz@ffotogallery.org