Sianel / 1 Mai 2018

Jaipur 2018 - Huw Alden Davies

Jaipur 2018 - Huw Alden Davies
© Huw Alden Davies
Jaipur 2018 - Huw Alden Davies
© Huw Alden Davies

Wrth gerdded yn bellach ac yn bellach i ddyfnderoedd yr hen ddinas a'i strydoedd tywyll, roedd fy synhwyrau'n gwneud eu gorau i ddal gafael ar rywbeth dealladwy. Unrhyw beth. Ond wrth i ni ymgolli yn y llif o wynebau gwyliadwrus, y traffig ffyrnig o bobl, beiciau, cartiau a gwartheg, fe'm cefais fy hun yn methu â symud. Roeddwn yn barod i dderbyn na fyddai modd i mi ddal mewn ffotograff yr hyn a welais ac a deimlais yn ystod y foment honno - beth bynnag yr ydoedd. Ac na fyddai modd i ddelwedd gymharu ag atyniad diflannol rhywbeth a oedd yn brin, yn real ac yn gwbl hudolus.

© Huw Alden Davies

Roedd Jaipur yn wahanol i unrhyw beth a brofais cyn mynd yno ac ymhen ychydig oriau yn unig roeddwn wedi derbyn mwy o wybodaeth synhwyraidd nag y gallwn ei phrosesu. Wrth i mi aros am fwlch yn y cerrynt dynol o fy mlaen, a syllu ar anhrefn llychlyd y fan a elwir yn Ddinas Binc Rajastan, synhwyro'r cyflymder o'm cwmpas, y sŵn, y symudiad, y mwg, a'r ymdeimlad o gymuned, teuluoedd a phlant, sylweddolais bod yr hyn a oedd yn fy wynebu o'r pwynt hwnnw ymlaen yn gwbl afreolus. Yn India maen nhw'n dweud 'One life' - a dw i'n gallu uniaethu â hynny. Yng Nghymru, mae rhai’n dweud 'Un bywyd, byw fo' - a doedd dim gwahaniaeth nad oeddwn i'n barod am yr hyn a oedd o'm blaen, dyna'n union yr oeddwn i'n bwriadu’i wneud.

© Huw Alden Davies