Sianel / 31 Ion 2023

Newyddlen mis Ionawr

Neges Blwyddyn Newydd gan ein Cyfarwyddwr

Rydym wedi setlo i mewn i’r flwyddyn newydd erbyn hyn, felly hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch o galon i bawb a ddaeth i Ffotogallery, a ddaeth i un o’n digwyddiadau (yn bersonol neu ar-lein) ac a’n cefnogodd mewn unrhyw ffordd arall yn 2022, ac wrth gwrs i’r tîm a wnaeth hynny’n bosibl. Os edrychwn ar yr hyn sy’n digwydd yn 2023, mae gennym gyfres o ddigwyddiadau cymunedol a sgyrsiau ochr yn ochr â’n harddangosfa bresennol We Are Here, Because You Were There. Cyn hir byddwn yn dechrau ein rhaglen datblygiad proffesiynol Ffocws newydd gyda sgyrsiau, gweithdai a mentora – sydd oll yn bosibl diolch i’r ariannu gan Ashley Family Foundation.

Rydym hefyd wrth ein boddau ein bod wedi derbyn grant gan raglen ‘Reimagine’ Art Fund, a fydd, dros y ddwy flynedd nesaf, yn cefnogi cyfres o weithgareddau meddiannu’r oriel i brofi a herio cyfyngiadau ffotograffiaeth o fewn ‘sefydliad’ ein horiel.

Ers i mi gymryd y rôl ym mis Ebrill, mae wedi bod yn wych bod yn rhan o gynifer o sgyrsiau am ffotograffiaeth yng Nghymru a chlywed cymaint o syniadau gwych am y posibiliadau i Ffotogallery yn y dyfodol. Mae eich brwdfrydedd am ffotograffaeth yn ysbrydoli’n fawr! Rwy’n gobeithio cadw’r sgyrsiau hyn yn mynd, cysylltwch ar unwaith os oes gennych syniad neu brosiect i’w trafod.

Dymunaf 2023 iach a hapus i bawb,

Siân

YN AGORED NAWR: WE ARE HERE, BECAUSE YOU WERE THERE

Yn dilyn noson ragddangosiad lwyddiannus ar Ddydd Gwener 27 Ionawr, rydym wrth ein boddau bod ein harddangosfa newydd We Are Here, Because You Were There yn agored nawr!

Amseroedd agor yr oriel yw Dydd Mercher – Dydd Sadwrn, 12 - 5pm.

Mwy o wybodaeth

DRAW I GASNEWYDD: WE ARE HERE, BECAUSE YOU WERE THERE

Dewch i ymuno â ni yng Nglan yr Afon ar Ddydd Iau 9 Chwefror, 6pm – 8.30pm, pan fyddwn yn dod â’n harddangosfa bresennol We Are Here, Because You Were There i Gasnewydd drwy gyfrwng trafodaethau a gosodiad taflunio!

Mae hon yn argoeli i fod yn noson ddiddorol lle gallwn ganolbwyntio ar sefyllfa’r cyfieithwyr o Affganistan oedd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi wedi i’r lluoedd tramor ymadael gan ddod i ymgartrefu ym Mhrydain. Mae croeso i bawb ymuno â ni a’n helpu i barhau â’r sgwrs.

Mwy o wybodaeth


TAITH RITHWIR CYMUNEDAU O DDEWIS

Dewch i weld ein taith 360 gradd ddiweddaraf o amgylch Cymunedau o Ddewis, ein hail ddarn o waith ar y cyd â Chennai Photo Biennale, sy’n dod ag artistiaid o Gymru ac India at ei gilydd i archwilio beth mae cymuned yn ei olygu iddyn nhw. Ar hyn o bryd mae’r arddangosfa’n cael ei dangos yn y Kochi Biennale, ac mae hyn wedi bod yn bosibl Diolch i ariannu gan y British Council, a chymorth hael Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Mwy o wybodaeth

DYDD MAWRTH TE A THEISEN YN DYCHWELYD - 7FED CHWEFROR 2023

Mae’r Dydd Mawrth Te a Theisen hyfryd yn dychwelyd ar 7 Chwefror o 11am – 1pm. Galwch draw i gael cyfle i weld yr arddangosfa newydd ac i sgwrsio. Byddai’n braf eich gweld chi!

Mwy o wybodaeth

CANLYNIAD HER Y DDYDDLYFR FFOTOGRAFFAU I GODI CALON MIS IONAWR

Rydym wedi gwir fwynhau gweld yr holl ffotograffau’n dod i mewn ar gyfer Her Dyddlyfr Ffotograffau i Godi Calon mis Ionawr. Maen nhw’n sicr wedi codi ein calonnau ni yma yn Ffotogallery yn ystod diwrnodau tywyll mis Ionawr!

Cofiwch gofrestru ar gyfer ein dangosiad Llyfr Ffotograffau ar-lein ar 2il Chwefror.

Efallai hefyd y byddwch yn mwynhau:


Galwad Agored ar gyfer Wythnos y Ffoadur 2023: Tosturi

Galwad i bobl greadigol! Ar gyfer 25ain pen-blwydd Wythnos y Ffoadur, maen nhw’n comisiynu person neu bobl creadigol sydd â hanes o fod yn ffoadur neu geisio lloches i greu’r prif ddyluniad ar gyfer Wythnos y Ffoadur 2023.

Mwy o wybodaeth

NAE Open 2023: Galw am Geisiadau

Mae’r ceisiadau’n agored ar gyfer NAE Open 2023, sef arddangosfa a chyfle datblygiad proffesiynol ar gyfer artistiaid wedi eu seilio yn y DU gan Global Ethnic Majority* a’r holl artistiaid o Swydd Nottingham.

Mwy o wybodaeth

Lansio’r Ganolfan Ffotograffiaeth Brydeinig

Agorodd y Ganolfan Ffotograffiaeth Brydeinig ei drysau yr wythnos diwethaf. Maen nhw’n cynnal nifer o arddangosfeydd yn eu gofod 3 llawr, hynod fodern.

Mwy o wybodaeth

Abertawe Agored 2023 yn Oriel Glynn Vivian

Mae Abertawe Agored yn ôl eleni! Mae’n agored i unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9).

Mwy o wybodaeth