Sianel / 8 Hyd 2019

Keith Morris (1958-2019)

Roeddem yn drist iawn i glywed y newyddion am farwolaeth Keith Morris dros y penwythnos. Roedd ei gyfraniad at ffotograffiaeth yng Nghymru yn aruthrol - toreithiog, ac yn ymroddedig i'w grefft, roedd wir yn dalent unigryw. Cipiodd bob agwedd ar fywyd yng Nghymru - ac mae'r teyrngedau iddo o bob rhan o'r wlad a thu hwnt yn dyst i'r parch mawr yr oedd gan gymaint ato. Fel cyn-gadeirydd Ffotogallery chwaraeodd hefyd ran bwysig yn ein datblygiad a thrwy helpu i hyrwyddo achos ffotograffiaeth er budd pawb. Mae ein cydymdeimladau gyda'i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hon.