Sianel / 24 Awst 2020

LockDownRenga

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gymryd rhan yn LockDownRenga, sef cyfres newydd o weithdai ffoto-farddoniaeth ar-lein i artistiaid sy’n gwarchod, sydd dan risg uchel neu sy’n ynysu. Yn rhedeg y gweithdai mae’r artistiaid David Sinden a Kate Woodward ac, mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, bydd chwe gweithdy LockDownRenga, gweithdy barddoniaeth gyda’r bardd a’r perfformiwr Mel Perry, a chyfres o adnoddau disgrifiad clywedol wedi eu recordio gan yr artist clyweledol cyfoes Zoe Partington.

Mae LockDownRenga yn brosiect a ddyfeisiwyd mewn ymateb i COVID-19 gan Kate Woodward a David Sinden. Cafodd ei greu’n benodol i alluogi i artistiaid a ffotograffwyr sydd dan risg uchel neu sy’n gwarchod ymuno â’u cyd-artistiaid a chydweithio’n greadigol. Gyda’n gilydd rydym yn cynhyrchu cerddi PhotoRenga coeth newydd ac yn canfod ffyrdd newydd o weld y byd o’n cwmpas – p’un a ydym yn yr awyr agored neu o fewn ein pedair wal ein hunain.

Mae PhotoRenga yn gerddi gweledol sydd wedi eu hysbrydoli gan fath hynafol o farddoniaeth Japaneaidd lle mae cyfresi o benillion haiku byr yn adeiladu i greu cerddi cymhleth a dwys. Mantais y syniad sy’n sail i PhotoRenga yw y gall unrhyw artist gymryd rhan yn y gweithdai a redwn a chydweithio gyda chyfranogwyr eraill i greu gwaith celf newydd ar y cyd y maen nhw’n ei rannu ac sy’n ymateb yn uniongyrchol i’ch cyd-amgylcheddau ac yn eich galluogi chi i’w gweld nhw mewn ffyrdd newydd.

I ganfod rhagor am y prosiect a sut i gymryd rhan, ewch i lockdownrenga.net neu anfonwch e-bost i [email protected].

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl diolch i arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru.