Sianel / 13 Mai 2020

Mae ‘Nifer o Leisiau, Un Genedl’ yn Mynd Ar-lein

Yn anffodus, o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19, mae arddangosfa derfynol y daith Nifer o Leisiau, Un Genedl, oedd i fod i agor yr wythnos hon yn Galeri Caernarfon, wedi gorfod cael ei chanslo. Er nad yw’r arddangosfa’n agored yn ffisegol, rydym wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid yn Senedd Cymru i ddod â’r arddangosfa i chi yn eich cartrefi, drwy ddangos gwaith pob un o’r chwe artist a gomisiynwyd ar ein platfform Ffotoview.

Mae Nifer o Leisiau, Un Genedl yn arddangosfa deithiol dan ofalaeth Ffotogallery a Senedd Cymru.

Cafodd yr arddangosfa hon ei chomisiynu gan Senedd Cymru ac mae hi’n rhan o’r rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n dathlu’r 20 mlynedd gyntaf o ddatganoliad yng Nghymru.

Mae hi’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens i archwilio’r gobeithion a’r dyheadau am ddyfodol Cymru. Mae chwe artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru wedi cael eu comisiynu mewn meysydd sy’n cynnwys ffotograffiaeth, fideo a chyfryngau’r lens, delweddu digidol, gosodiadau a chyfryngau cymysg. Nod yr arddangosfa yw cyfleu cyfoeth ac amrywiaeth y ddaearyddiaeth, y diwylliant a’r gymdeithas yng Nghymru a, lle bo modd, annog cyfranogaeth y cyhoedd.

Y chwe artist a gomisiynwyd yw Ed Brydon, Huw Alden Davies, James Hudson, Jon Pountney, Luce+Harry a Zillah Bowes.

Lansiodd Nifer o Leisiau, Un Genedl yn y Senedd, y ganolfan dros ddemocratiaeth a datganoliad yng Nghymru, ym mis Medi 2019 cyn teithio i Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar ddiwedd 2019, a Redhouse Cymru, ym Merthyr ym mis Chwefror 2020.

Gallwch ganfod rhagor am gefndir yr artistiaid a gweld eu prosiectau mewn oriel ar-lein ar ffotoview.org