Sianel / 31 Maw 2021

Newyddlen mis Mawrth

A Woman’s Work

Yr wythnos diwethaf buom ni’n dathlu diwedd y prosiect Ewropeaidd A Woman’s Work gyda’n digwyddiad ar-lein ‘Ffotograffiaeth ac… A Woman’s Work’. Dyma ddiweddglo rhaglen gydweithredol yn para 30 mis o gomisiynau artistiaid, cyfnodau preswyl artistiaid, arddangosfeydd, cyhoeddiadau, symposia a digwyddiadau ar-lein dan arweiniad Ffotogallery ac wedi’u darparu gyda’n partneriaid yn Lithwania, Iwerddon, y Ffindir, Ffrainc a’r Almaen. Roedd y prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau digidol i herio’r ffordd bennaf y mae merched wrth eu gwaith yn cael eu cynrychioli’n weledol ac yn dangos sut mae hyn yn newid yn yr Ewrop gyfoes. Hoffem ddiolch i bawb a ymunodd â ni ar y diwrnod, ac wrth gwrs i’r holl artistiaid, curaduron, partneriaid ac ariannwyr a wnaeth y prosiect yn bosibl. Bydd recordiad o’r digwyddiad ar gael i’w wylio ar-lein cyn hir, ac yn y cyfamser gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar dudalen y prosiect isod i ganfod rhagor am yr artistiaid, digwyddiadau ac arddangosfeydd ffisegol a rhithwir, ac i gael copi o’r cyhoeddiad etifeddol A Woman’s Work.

Byddwn yn cyhoeddi rhagor o ddigwyddiadau ‘Ffotograffiaeth a…’ cyn hir, felly cadwch lygad ar y dudalen hon.

Mwy o wybodaeth


© Palani Kumar

Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth – cwrdd â’r Artistiaid

Mae’r cydweithredu parhaus rhwng Chennai Photo Biennale Foundation a Gŵyl Diffusion wedi golygu bod cyfanswm o bum grant wedi eu dyfarnu i ffotograffwyr/artistiaid drwy gyfrwng lens yn India a Chymru. Mae pob artist wedi derbyn grant o 1500 GBP i weithio ar eu prosiectau arfaethedig dros gyfnod o chwe mis.

Yr artistiaid llwyddiannus yw Dipanwita Saha (India), Huw Alden Davies (Cymru), Palani Kumar (India), Sebastián Bustamante (Cymru) a Tarun Bhartiya (India). Gallwch ganfod rhagor am yr artistiaid a’r prosiectau y maen nhw’n gweithio arnynt gan ddefnyddio’r botwm isod.

Mwy o wybodaeth

© Andreas Meichsner

Yr Artist dan Sylw ym mis Mawrth – Andreas Meichsner

Mae Andreas Meichsner (ganed yn 1973) yn ffotograffydd Almaenaidd sydd wedi ei seilio yn Berlin. Mae ei waith yn canolbwyntio ar agweddau cyfoes o’r gymdeithas Ewropeaidd ac yn ymdrin yn arbennig â’r angen am ddiogelwch a strwythur a’i effaith ar bobl.

Yn y cyd-destun hwn, mae’n dangos agweddau a nodweddion hynod twristiaid yn ystod eu teithiau a daeth ei lyfr ffotograffau cyntaf, Alles in Ordnung, yn deitl buddugol yng Ngwobrau Llyfrau Ffotograffiaeth yr Almaen 2012.

Mae’r prosiect Arkadia yn edrych ar fywyd mewn parciau tai gwyliau yn yr Iseldiroedd. Mae trefn bensaernïol y parciau mor unffurf nes bod rhywun yn cael yr argraff mai’r tai hyn yw’r adeiladau gofynnol ar gyfer byd artiffisial perffaith, fel Arcadia fodern.

Mwy o wybodaeth

Efallai hefyd y byddech chi’n hoffi:

FORMAT21: CONTROL

Eleni mae Format wedi ymuno â New Art City i gyflwyno’r ŵyl mewn gofod oriel rithwir bwrpasol i nifer o gyfranogwyr, gyda mwy na 160 o artistiaid rhyngwladol a detholiad o 40,000 o ddelweddau a gyflwynwyd i’r archif #massisolationFORMAT a grëwyd yn ystod y pandemig y llynedd. Mae’r ŵyl rithwir ymlaen yn awr tan 11 Ebrill.

Mwy o wybodaeth

© Stuart Whipp

Artes Mundi 9 Ar-lein

Gallwch archwilio arddangosfa Artes Mundi 9 ar-lein erbyn hyn, gyda sgyrsiau rhad ac am ddim gan yr artistiaid sydd ar y rhestr fer a theithiau cerdded drwy arddangosfeydd. Mae cyflwyniadau o waith newydd a diweddar yn canolbwyntio ar effaith ddinistriol y trefedigaethu hanesyddol, newid amgylcheddol, trawma ac iachâd rhwng y cenedlaethau, canlyniad ac effeithiau gwrthdaro, a phryderon parhaus am gynrychiolaeth a braint.

Mwy o wybodaeth


Gwobr Gelf Aesthetica 2021

Mae Aesthetica yn chwilio am artistiaid sy’n ail ddiffinio paramedrau celf gyfoes. Mae’r Wobr yn agored i amrywiol genres, gan gynnwys ffotograffiaeth, cerflunio, gosodweithiau, cyfryngau digidol, fideo, peintio a mwy. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 31 Awst ond rhaid cyflwyno gwaith erbyn eu dyddiad cau yn y Gwanwyn i fanteisio ar y gostyngiad yn y ffi mynediad.

Mwy o wybodaeth

OpenWalls Arles

Mae OpenWalls yn wobr ffotograffiaeth ryngwladol a luniwyd i ddyrchafu gyrfaoedd ffotograffwyr sefydledig a ffotograffwyr sy’n dechrau dod i’r amlwg drwy arddangos eu gwaith mewn lleoliadau clodfawr a hanesyddol o amgylch y byd. Thema’r flwyddyn hon yw Then and Now, a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 1 Ebrill.

Mwy o wybodaeth