Cylchlythyr mis Mawrth

Nodyn atgoffa am ddigwyddiad: Tro a Sgwrs / Dangos Ffilm
Dydd Sadwrn 9 Ebrill, 1-5pm
Ymunwch â ni i fwynhau prynhawn o ddigwyddiadau arbennig i nodi cau’r arddangosfa, ‘What Photography & Incarceration have in Common with an Empty Vase’. Bydd Edgar Martins yn ymuno â ni ar y diwrnod i gael tro a sgwrs o amgylch yr arddangosfa, ac yn dilyn hynny byddwn yn dangos ei ffilm ‘The Life and Death of Schrödinger’s Cat’.
Nodwch os gwelwch yn dda, byddwn yn dangos y ffilm yn ein llyfrgell ac felly bydd y lleoedd yn gyfyngedig. Mae angen cadw lle ar gyfer y digwyddiad hwn, ac mae’r tocynnau ar gael yma.

Taith rithiol
Os na allwch deithio i’r oriel cyn i’r arddangosfa gau, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i’r arddangosfa’n rhithiol drwy gymryd ein taith 360° ddiweddaraf o’r oriel!

Digwyddiadau Cau Prydain Anweledig: Yr Ynys Wahanedig Hon
Ar ddydd Sadwrn 19 Chwefror cawsom ddiwrnod o ddigwyddiadau i nodi diwedd yr arddangosfa Prydain Anweledig: Yr Ynys Wahanedig Hon. Mae’r rhain ar gael yn awr i’w gwylio ar-lein felly gallwch ddal i fyny os nad oeddech wedi gallu mynd ar y diwrnod.

Llyfr y mis – Rites and Traces gan Robert Greetham (copïau wedi eu llofnodi)
Mae Rites and Traces yn newydd i’r siop lyfrau ac yn waith llyfr wedi ei hunan-gyhoeddi gan gyn Gyfarwyddwr Ffotogallery Robert Greetham. Mae’r prosiect yn archwilio themâu ffydd a thraddodiad gan ddefnyddio cyfuniad o ffotograffau a phaentiadau i ddogfennu digwyddiadau Semana Santa (wythnos sanctaidd) pan oedden nhw’n digwydd yn Malaga rhwng 2004 a 2008. Mae copïau wedi eu llofnodi ar gael yn yr oriel ac ar-lein.
Efallai hefyd bod gennych ddiddordeb yn y pethau hyn:

Galwad am geisiadau: Arddangosfa Ffotograffiaeth Ryngwladol 164
Gall ffotograffwyr a gwneuthurwyr delweddau o bob oed gyflwyno eu gwaith i Arddangosfa Ffotograffiaeth Ryngwladol RPS. Rydym yn annog ffotograffwyr drwy’r byd i gyd, boed y rheiny’n ffotograffwyr newydd, rhai sy’n dod i’r amlwg neu rai sydd wedi hen sefydlu, i wneud cais i’r Arddangosfa. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Mai.

Gwobr Goffa Rebecca Vassie 2022
Mae’r ceisiadau’n agored ar gyfer Gwobr Goffa Rebecca Vassie 2022, sef bwrsari ariannol i ffotograffydd proffesiynol wneud prosiect ffotograffiaeth naratif. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 8 Ebrill.

Immersdiff yn labordy CultVR
Bydd detholiad o ffilmiau rhyngwladol arobryn sy’n gwthio ffiniau’r sinema cryndo cyflawn yn cael eu dangos ar 7 a 9 Ebrill. Mae angen archebu

Female in Focus
Mae Female in Focus yn ôl ar gyfer ei bedwaredd gyfres ac mae’n dathlu gwaith ffotograffwyr benywaidd o’r radd orau drwy’r byd i gyd. Gwnewch gais er mwyn cael cyfle i arddangos eich gwaith yn y DU a'r Unol Daleithiau. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 7 Ebrill