Sianel / 28 Mai 2021

Newyddlen mis Mai


Rydym ar agor!

Mae’n bleser mawr gennym ail agor drysau’r oriel i ymwelwyr am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr! Yn dilyn arddangosiad byr iawn y llynedd, rydyn ni’n dal i arddangos Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 er mwyn i chi allu dod i’w fwynhau. Mae’n dangos gwaith deuddeg o artistiaid dawnus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw sy’n cyfleu cyfoeth ac amrywiaeth y ddaearyddiaeth, y diwylliant a’r gymdeithas sydd i’w cael yng Nghymru, mewn cyfnod o ansicrwydd a newid mawr.

Mae gofyn i’r staff a’r ymwelwyr i gyd wisgo masgiau yn y mannau cyhoeddus, parchu’r rheolau cadw pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo’n rheolaidd gan ddefnyddio dŵr poeth neu hylif diheintio o’r dalwyr sebon sydd i’w cael drwy’r adeilad i gyd. Rydyn ni hefyd yn gofyn i ymwelwyr gofrestru eu manylion cyswllt yn y dderbynfa neu ddefnyddio ap y GIG ar eu ffonau clyfar neu lechen.

Does dim angen i chi gofrestru eich ymweliad cyn dod, ond os hoffech ymweld fel grŵp neu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, cysylltwch ag [email protected] o flaen llaw er mwyn i ni sicrhau bod eich profiad mor gyfoethog a hwyliog ag sy’n bosibl.

Mwy o wybodaeth

© Mary Farmilant

Gwyliwch: Ffotograffiaeth a Lles

Os nad oeddech chi wedi gallu dod i’n digwyddiad ar-lein diwethaf, Ffotograffiaeth a Lles, gallwch wylio’r recordiad bellach ar ein gwefan! Mae Mary Farmilant sy’n gweithio o Chicago yn cyflwyno dau o’i phrosiectau, 'See You On The Other Side' a 'Natura Consonant', ac yn dilyn hynny mae Suzie Larke mewn trafodaeth â’r seicolegydd cwnsela Dr Annie Beyer a’r ddigrifwraig Jayde Adams, am ei phrosiect diweddaraf ‘Unseen’.

Dewch yn ôl yma eto i glywed am ragor o ddigwyddiadau ‘Ffotograffiaeth a….’ sy’n dod cyn hir.

Mwy o wybodaeth

Llyfr y mis – Land/Sea gan Mike Perry

I gyfateb â rhan nesaf yr arddangosfa deithiol, y cyhoeddiad dan sylw fis yma yw Land/Sea Mike Perry. Mae hwn yn cyfuno cyrff diweddar o waith sy’n edrych ar y ffordd y mae bioamrywiaeth naturiol tirweddau a’r amgylcheddau morol yn cael eu tanseilio a’u gwenwyno gan esgeulustod dynol, camreoli amaethyddol a’r dyhead am elw tymor byr ar draul cynaliadwyedd tymor hir.

Mae’r monograff hwn yn cynnwys tirweddau o Wet Deserts, dyfyniadau o Môr Plastig, astudiaeth ffotograffig fforensig parhaus o wrthrychau plastig sydd wedi dod i’r lan ar arfordir gorllewinol Cymru, ochr yn ochr â chyfraniadau gan George Monbiot a Skye Sherwin.

Mae’r arddangosfa’n agored yn awr tan 14 Awst yn Oriel Thelma Hulbert yn Honiton, Dyfnaint, felly gwnewch yn siŵr eich bod mynd i’w gweld os gallwch – mae rhagor o fanylion ar eu gwefan.

Mwy o wybodaeth

You may also be interested in the following:


Gwerthiant Printiau PhotoSolidarity

Mae ein partneriaid yn Chennai Photo Biennale yn codi arian i gynorthwyo â’r sefyllfa COVID yn India drwy gynnal gwerthiant printiau PhotoSolidarity. Mae’r gyfres gyntaf o brintiau artistiaid ar gael yn awr, a byddent yn rhyddhau rhagor yn yr wythnosau nesaf.

Mwy o wybodaeth

Gŵyl Ffotograffau Bryste

Mae’r dyddiadau wedi eu cyhoeddi erbyn hyn ar gyfer Arddangosfa Haf Gŵyl Ffotograffiaeth Bryste, lle bydd arddangosfeydd i’w cael o amgylch y ddinas mewn safleoedd fel Martin Parr Foundation, Arnolfini, Bristol Museum & Art Gallery, a rhagor. Ewch draw i’w gwefan i weld y rhaglen lawn.

Mwy o wybodaeth

© Ryan Wood

Cylchgrawn Golau

Mynnwch eich copi o’r cylchgrawn Golau, sy’n sôn am ffotograffwyr o Ysgol Gelf Caerfyrddin, ac sydd wedi’i olygu a’i gynhyrchu gan y graddedigion Nikita Evans a Sal Nordan. Mae’r ail rifyn hwn yn archwilio’r thema ‘Radiws’.

Mwy o wybodaeth

Sgwrs Amgueddfa

Mae’r Amgueddfa Genedlaethol wedi creu rhaglen o sgyrsiau ar-lein yn y Gymraeg a’r Saesneg gan eu curaduron a’u gwarchodwyr sy’n trafod pynciau fel y gwyddorau naturiol, hanes cymdeithasol a diwylliannol, celf, a hanes diwydiannol. Gallwch weld y rhaglen gyfan ac archebu isod.

Mwy o wybodaeth