Sianel / 28 Ion 2022

Meet the Kickstarters! Charlie Hill

Mae Ffotogallery wedi cyfweld pob un o aelodau ein tîm Kickstart, a threfnwyd hynny gan un o’r bobl ar Kickstart Joshua Jones, am eu bod nhw’n eu gadael ni nawr i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r cyfweliadau blog hyn yn ffordd o ddathlu eu creadigedd a’u gwaith caled, i ddangos pwy ydyn nhw ac i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i Ffotogallery yn ystod yr amser maen nhw wedi bod yma. Os ydych chi wedi bod i’r Ŵyl Diffusion neu i unrhyw rai o’n harddangosfeydd a'n digwyddiadau, yna byddwch wedi gweld eu hwynebau’n eich croesawu wrth y drws, yn paratoi diodydd neu’n dogfennu’r digwyddiad.

Gair amdanoch chi:

Rwy’n bianydd ac yn artist pensiliau o Gernyw. Cwblheais Radd mewn Perfformiad Piano Clasurol o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2020, ac ers hynny – dechrau’r pandemig – rwyf wedi bod yn manteisio ar yr amser i ehangu fy opsiynau gyrfaol wrth i bopeth fynd ar-lein.

Beth yw rôl eich swydd yn Ffotogallery? Beth yw diwrnod gwaith arferol i chi?

Rwy’n Gynorthwyydd Marchnata yn Ffotogallery. O ddydd i ddydd, rwy’n creu postiadau, straeon a negeseuon trydar ac yn ymgysylltu â dilynwyr Ffotogallery – maen nhw’n griw hyfryd o bobl (edrychwch drosoch eich hun a dilynwch ni!!).

Ydych chi wedi gweithio ar arddangosfa neu brosiect yr ydych yn arbennig o falch ohonynt? Beth oedd eich cyfraniad chi, a pham ydych chi’n falch o’ch gwaith ar yr arddangosfa honno/y prosiect hwnnw?

Yn ystod fy amser yma, credaf mai’r hyn rwyf wedi bod fwyaf balch ohono yw gweithio ar Diffusion 2021. Am nad ydw i wedi gwneud gwaith marchnata’n broffesiynol o’r blaen, rhoddodd y profiad i mi i oruchwylio arddangosfeydd cyfan ar fy mhen fy hun ac ymdrin ag ymholiadau personol a chadw rheolaeth ar yr holl gynnwys creadigol, ymholiadau ar-lein a phostio byw.

Oes gennych chi hoff atgof o weithio yn Ffotogallery?

Credaf mai’r rhannau gorau i mi oedd cynllunio cynnwys ar gyfer lansio arddangosfeydd, er bod postio byw yn ystod rhai digwyddiadau cyffrous fel parti lansio Gŵyl Diffusion ac agoriad Atomic-Ed Janire Najera wedi bod yn brofiadau anhygoel. Mae cyfarfod artistiaid mor dalentog a gweld eu gwaith celf o ddydd i ddydd wedi fy ysbrydoli’n fawr iawn.

Beth yw eich cynlluniau ar ôl Ffotogallery?

Yr her yn awr yw canfod swydd ran amser arall mewn marchnata mewn lle sydd mor groesawgar a hwyliog ag y bu Ffotogallery dros y misoedd diwethaf. Gyda hanner arall fy amser, byddaf yn ailgychwyn fy mherthynas â’r piano, gyda’r bwriad o roi gwersi piano ac adeiladu ar y wybodaeth a ddysgais drwy gydol fy ngradd, a dechrau gwneud lluniadau graddfa fawr o’r dirwedd! Er fy mod wedi cynnig portreadau realistig a phortreadau o anifeiliaid anwes yn y gorffennol, dyma lle mae fy ngwir ddiddordeb, ac edrychaf ymlaen at weld lle bydd yn fy nghymryd yn artistig wrth i mi archwilio’r holl sefydliadau celf, grwpiau, orielau a thirweddau sydd gan Gymru i’w cynnig.