Sianel / 2 Mai 2018

Cwrdd â'r Tîm - Liz Hewson

Dywedwch ychydig bach wrthym amdanoch chi'ch hun

Fy enw i yw Liz, dw i'n 26 oed ac rydw i'n dod o Cheltenham yn wreiddiol. Symudais i Gasnewydd i astudio am radd BA Anrhydedd mewn Celfyddyd Ffotograffig yn 2011 a dw i wedi byw yn Ne Cymru ers hynny. Yn ogystal â fy ngwaith yn Ffotogallery, dw i hefyd yn ffotograffydd a dw i wedi arddangos fy ngwaith yn rhyngwladol ers 2015.

Beth yw eich rôl yn Ffotogallery a beth mae hynny'n ei olygu?

Teitl fy swydd yw Cydlynydd Cynhyrchu - mae hynny'n cwmpasu ystod eang o wahanol feysydd, gan gynnwys cynllunio, hyrwyddo a chyflwyno arddangosfeydd, cyswllt ag artistiaid, argraffu a chyfathrebu electronig. Dw i hefyd yn hwyluso ein rhaglen o gyrsiau creadigol achrededig.

Beth a'ch ysbrydolodd chi i weithio yn y celfyddydau?

Roeddwn i wastad yn hoff o'r pynciau mwy creadigol yn yr ysgol, ac fe arweiniodd hynny at astudio am radd Sylfaen mewn Celfyddyd a Dylunio, lle syrthiais i mewn cariad â ffotograffiaeth.

Oes gennych chi hoff Brosiect neu Arddangosfa ers bod gyda Ffotogallery?

Un o fy hoff brosiectau oedd Zeitgeist, a oedd yn ganlyniad i alwad agored, byd-eang am weithiau, yn rhan o Diffusion 2017. Arweiniodd hynny at arddangosfa fawr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod yr ŵyl. Roedd yna gyfle hefyd i nifer o artistiaid dethol ddangos corff mwy sylweddol o waith mewn gwahanol leoliadau ledled y ddinas. Roedd yn fraint gweld llawer o waith newydd, ac i weithio gydag amrywiaeth o artistiaid.

Rhowch ffaith ddiddorol amdanoch chi'ch hun i ni

Dw i'n gallu chwarae'r sacsoffon!