Sianel / 2 Mai 2018

Cwrdd â'r Tîm - Marc Arkless

Dywedwch ychydig bach wrthym amdanoch chi'ch hun?

Cefais fy ngeni ym Mhencoed, de Cymru; Coleg Celf Hornsey a Choleg Celf Abertawe, graddiais yn 1983. Cyflwynais f'arddangosfa gyntaf, wedi'i threfnu gan Ffotogallery, yng Nghoridor y Ffotograffwyr, Prifysgol Caerdydd, ym 1982. Ffotograffydd adrannol yn Adran Gwyddorau Daear Prifysgol Caerdydd, 1987-89. Dechreuais weithio i Ffotogallery ym 1991.

Beth yw eich rôl yn Ffotogallery a beth mae hynny'n ei olygu?

Fi yw'r Rheolwr Arddangosfeydd. Dw i'n gweithio gyda'r cyfarwyddwr a'r artist sy'n arddangos ac yn goruchwylio'r modd y caiff yr arddangosfa ei chyflwyno. Dw i'n dod o hyd i atebion i unrhyw faterion technegol sy'n codi ac yn sicrhau bod y lluniau'n syth – gobeithio!

Beth a'ch ysbrydolodd chi i weithio yn y celfyddydau?

Roeddwn i'n hoffi gwaith coed a gwaith metel yn yr ysgol - fi oedd un o'r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i astudio'r cwrs Crefft, Dylunio a Thechnoleg newydd at Lefel A. Roedd fy athro, Mr John Peters, yn ysbrydoliaeth; roedd e'n ymddiddori mewn moderniaeth ac fe'm cyflwynodd i waith y Bauhaus.

Oes gennych chi hoff Brosiect neu Arddangosfa ers bod gyda Ffotogallery?

Dw i wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau gwych dros y blynyddoedd, ond mae yna ddau sydd wastad yn dod i'r meddwl, sef taith Pentti Sammallahti trwy Gymru ac arddangosfa Recognition Joseph Koudelka. Roeddwn i'n ddigon ffodus i dreulio amser ar daith gyda'r ddau artist, ac fe es i dan ddaear gyda Koudelka hyd yn oed, ym mhwll glo y Tower, ar ôl derbyn gwahoddiad gan Tyrone O'Sullivan.

Rhowch ffaith ddiddorol amdanoch chi'ch hun i ni

Fe ges i ginio un tro gyda Richard Branson.