Sianel / 27 Ion 2022

Meeting the Kickstarters: Liliana Bastos

Mae Ffotogallery wedi cyfweld pob un o aelodau ein tîm Kickstart, a threfnwyd hynny gan un o’r bobl ar Kickstart Joshua Jones, am eu bod nhw’n eu gadael ni nawr i gymryd y cam nesaf yn eu gyrfaoedd. Mae’r cyfweliadau blog hyn yn ffordd o ddathlu eu creadigedd a’u gwaith caled, i ddangos pwy ydyn nhw ac i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i Ffotogallery yn ystod yr amser maen nhw wedi bod yma. Os ydych chi wedi bod i’r Ŵyl Diffusion neu i unrhyw rai o’n harddangosfeydd a'n digwyddiadau, yna byddwch wedi gweld eu hwynebau’n eich croesawu wrth y drws, yn paratoi diodydd neu’n dogfennu’r digwyddiad.

Gair amdanoch chi:

Rwy’n dod o Bortiwgal, ac ar hyn o bryd rydw i yn y coleg yn astudio cwrs galwedigaethol ar lefel mynediad. Rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol i astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol a dod yn ffotograffydd.

Beth yw rôl eich swydd yn Ffotogallery, a beth yw diwrnod gwaith arferol i chi?

Rwy’n Gynorthwyydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau yn Ffotogallery. I mi, mae diwrnod gwaith arferol yn golygu helpu unrhyw un sydd angen cymorth. Rwy’n helpu i dacluso’r lle yn yr oriel, y llyfrgell neu’r swyddfa ac, yn gyffredinol, rwy’n rhoi help llaw ychwanegol. Rwyf hefyd yn aros wrth ddesg y dderbynfa i groesawu’r cyhoedd a goruchwylio, gan anfon/ateb negeseuon e-bost a gwneud ymchwil ar y gliniadur.

Ydych chi wedi gweithio ar arddangosfa neu brosiect yr ydych yn arbennig o falch ohonynt?

Trefnais y ffeiriau ffotograffiaeth, lle’r oeddwn yn cysylltu â gwahanol artistiaid a busnesau i ofyn a hoffen nhw gymryd rhan yn y digwyddiad. Roeddwn i wrth fy modd cael gwneud hynny fy hun oherwydd feddyliais i erioed y byddwn i’n gallu gwneud hynny ar fy mhen fy hun. Aethon nhw’n dda iawn hefyd! Mwynheais oruchwylio arddangosfeydd yn yr Ŵyl Diffusion hefyd, oherwydd roeddwn i’n mwynhau cyfarfod aelodau’r cyhoedd a helpu pobl.

Oes gennych chi hoff atgof o weithio yn Ffotogallery?

Rydw i wedi mwynhau pob dydd yn gweithio yn Ffotogallery ers i mi gychwyn. I mi roedd yn fendith oherwydd dysgais lawer, ac roeddwn i’n cyfathrebu ac yn gweithio gyda llawer o wahanol bobl. Mae wedi bod yn dda i’m datblygiad, bod yn rhan o Ffotogallery, oherwydd profais lawer o bethau newydd. Yn fwy na dim, roeddwn yn hoffi gosod ac agor arddangosfeydd a digwyddiadau, yn enwedig yn ystod Diffusion pan oeddem ni oll yn gweithio fel tîm. Cawsom lawer o hwyl a digonedd o chwerthin wrth wneud y gwaith gosod ar gyfer Diffusion!

Beth yw eich cynlluniau ar ôl Ffotogallery?

Fy nghynlluniau ar ôl Ffotogallery yw chwilio am swydd newydd sy’n addas i’r diddordebau sydd gen i. Rwy’n hapus i ddysgu a chael gwahanol brofiadau, felly rwy’n gobeithio y gallaf ganfod swydd y byddaf yn dal i’w mwynhau mewn blynyddoedd i ddod.