Sianel / 19 Tach 2021

Cyflwyniad – More Than a Number

Cynhaliwyd y symposiwm More Than a Number ar Hydref y 1af, a gwahoddwyd curaduron ac artistiaid o Gymru, gweddill Prydain ac Affrica i fod yn siaradwyr gwadd. Roedd yn gwau o amgylch tair thema: Cynrychioli Ehofndra, Parthau Cyswllt a Chymdeithasoldeb Radicalaidd; gyda’i gilydd, roedd y themâu hyn yn ein tywys i archwilio’r trafod beirniadol am gynrychiolaeth a sylw, a sut mae’r gwaith a gynhyrchir gan ffotograffwyr o Affrica’n cael ei leoli a’i werthuso. Fel sefydliadau diwylliannol yn y Gorllewin, mae dyletswydd arnom i fod yn gyfrifol yn y ffordd y cyflwynwn ffotograffiaeth o Affrica a, thrwy drafodaeth agored, gonest ac angenrheidiol iawn, sgwrsiodd ein siaradwyr â’r gynulleidfa i gyfnewid gwybodaeth a rhannu profiadau a heriau. Ein siaradwyr oedd: Mariama Attah, Giya Makondo-Wills, Anne Nwakalor, David Drake – ac yn llywio’r cwbl roedd Cynthia MaiWa Sitei.

Part One

Part Two