Sianel / 6 Meh 2018

Cronfa Sgiliau a Chyfleoedd Natwest

Tua mis yn ôl, fe ofynnon ni i'n cefnogwyr ein helpu ni trwy bleidleisio drosom yn y gystadleuaeth i dderbyn nawdd o Gronfa Sgiliau a Chyfleoedd Natwest, a fyddai'n ein galluogi ni i gynnig nifer fawr o gyfleoedd a chyfnodau o brofiad proffesiynol yn y diwydiant creadigol dros y 18 mis nesaf.

Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi ein bod wedi llwyddo i ennill y bleidlais gyhoeddus yng Nghymru a'r De Orllewin ac y byddwn yn lansio ein detholiad cyntaf o gyfleoedd gyda Ffotogallery cyn bo hir.

Am y tro, y ffordd orau o gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyhoeddiadau hyn yw cofrestru gyda'n rhestr bostio, neu gadw llygad ar ein gwefan newydd a'n cyfryngau cymdeithasol.

Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eich cefnogaeth ac fe hoffai tîm Ffotogallery ddweud diolch o galon i bob un a bleidleisiodd drosom ni!

R'yn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at ddechrau ar y gwaith!