Sianel / 29 Maw 2023

Galwad Agored - Ymyriadau: Ailosod Orielau

Mae Ymyriadau: Ailosod Orielau yn fenter newydd sy'n lansio yn 2023 ac mae’r fenter hon yn gofyn meddiannu cyfres o orielau dros y ddwy flynedd nesaf. Y grant Reimagine gan Art Fund sydd wedi gwneud y prosiect hwn yn bosibl, a'r bwriad yw agor yr oriel i gael ei hail ddehongli gan yr artist ei hun a gan y gynulleidfa.

Credwn y dylid ystyried yr oriel yn fan lle gall artistiaid, awduron, curaduron a phobl greadigol weithredu'n fwy rhydd, rhoi cynnig ar syniadau newydd, methu, ymgysylltu â'r gynulleidfa a herio cymdeithas.

Ein gobaith ni yw y bydd yr ymyriadau a'r meddiannau hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid sydd wedi eu seilio yng Nghymru sydd ag arferion sy'n herio ac yn aflonyddu ffyrdd traddodiadol o weithio, yn gofyn cwestiynau heriol a chythruddol, ac yn canolbwyntio ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhywedd, anghydraddoldeb cymdeithasol a'r amgylchedd.

Galwad Agored

Ar gyfer y meddiant cyntaf, mae'n bleser mawr gennym weithio mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, y sefydliad arweiniol ar gyfer celfyddydau anabledd yng Nghymru. Trwy wneud galwad agored, bydd un artist sy'n gweithio mewn ffotograffiaeth neu gyfryngau'r lens ac sy'n eu hystyried eu hunain yn fyddar, anabl a/neu niwrowahanol yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect.

Gwahoddir yr artist i ailddychmygu'r syniad o weithio yng nghyd-destun oriel gyfoes, drwy arbrofi â gosodweithiau, rhyngweithio a dehongli a herio dulliau traddodiadol.

Hefyd, bydd gwahoddiad i'r artist a ddewisir gydweithio'n agos â ni er mwyn datblygu rhaglen ddysgu ac ymgysylltu law yn llaw â'r gwaith yn yr oriel, yn cynnwys sgyrsiau/trafodaethau/gweithdai creadigol a digwyddiadau ymgysylltu â theuluoedd.

Amserlen

Dydd Sadwrn 1 Ebrill 2023 – Yr alwad am geisiadau’n agor

Dydd Gwener 19 Mai 2023 – Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio

Dydd Gwener 9 Mehefin 2023 – Rhoi gwybod i’r enillwyr

Gwahoddir yr artistiaid ar y rhestr fer i drafod eu cynnig cyn y gwneir y detholiad terfynol. Rydym yn disgwyl i’r meddiannu / ymyrraeth ddigwydd tua Awst/Medi 2023.

Gair am Ffotogallery

Cenhadaeth Ffotogallery yw ysbrydoli ymgysylltiad â ffotograffiaeth yng Nghymru, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn cefnogi cymuned o ffotograffwyr, artistiaid, pobl greadigol, addysgwyr, ymgyrchwyr a phobl sy’n caru celf, i gymryd rhan mewn sgyrsiau ehangach am rôl ffotograffiaeth mewn cymdeithas, i siapio ein hunaniaeth, ein hanes a’n diwylliant. Ein nod yw cyrraedd a gweithio’n gydweithredol â chynulleidfaoedd amrywiol drwy raglenni o ddigwyddiadau ac arddangosiadau cyfoes, arloesol ac sydd â chysylltiad â chymdeithas, mewn oriel groesawgar a hygyrch.

Gair am Disability Arts Cymru

Mae Disability Arts Cymru (DAC) yn rhoi llais i bobl fyddar ac anabl yn y celfyddydau yng Nghymru. Ffurfiwyd Disability Arts Cymru fel Elusen yn 1982 i alluogi cyfranogaeth yn y celfyddydau i bobl anabl yng Nghymru ac, ers hynny, mae wedi esblygu i fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol. Gan weithio ar draws yr holl ffurfiau celf, DAC yw’r unig sefydliad celfyddydol i Gymru gyfan a arweinir gan anabledd. Mae ein tîm bychan yn gweithio i agor mynediad a chyfle i artistiaid anabl ar bob cam o’u taith greadigol. https://localgiving.org/charity/disability-arts-cymru/

Pwy all wneud cais?

Mae'r cyfle hwn yn agored i artistiaid sy'n eu hystyried eu hunain yn fyddar, anabl a/neu niwrowahanol ac sydd hefyd yn ateb y meini prawf dilynol i gyd:

- dros 18 oed

- yn gweithio mewn ffotograffiaeth neu gyfryngau'r lens

- yn byw/gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, neu â chysylltiad cryf â Chymru

Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid gweledol o'r holl gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli / sydd heb gael y cyfle i arddangos eu gwaith mewn oriel o'r blaen.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio person fel rhywun anabl os oes ganddyn nhw nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor (h.y., wedi parhau, neu disgwylir iddo barhau, am o leiaf deuddeg mis) ac sy'n cael effaith niweidiol ar allu'r person i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Manteision

Mae hwn yn gyfle unigryw i un artist arbrofi â’u harferion a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio. Bydd hyn yn cefnogi eu datblygiad proffesiynol ac artistig, yn creu rhwydweithiau newydd ac yn dod â sylw i’w harferion.

Rhoddir ffi o £1000 i’r artist a ddewisir. Bydd Ffotogallery yn talu costau cynhyrchu, teithio a chostau rhesymol priodol eraill drwy negodi â’r artist.

Sut i ymgeisio:

Dilynwch y cyfarwyddiadau'n ofalus. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw gyflwyniadau anghyflawn.


Os byddwch yn teimlo bod angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch i'ch helpu i wneud cais am y cyfle hwn, neu i wneud y gwaith o feddiannu’r oriel os bydd eich cais yn llwyddiannus, cysylltwch ag Alex Butler ar [email protected] i drafod eich gofynion.

Dylai ymgeiswyr sy’n gwneud cais am yr Alwad Agored sicrhau bod eu cyflwyniadau’n cynnwys y wybodaeth a ganlyn:

  • Ffurflen gais gyflawn. Os byddai’n well gennych gyflwyno eich cais ar ffurf fideo, cysylltwch â [email protected].
  • Detholiad o hyd at 10 ffotograff o gorff cyflawn o waith (uchafswm o 72dpi, 1920 picsel o led), neu os ydych yn cyflwyno gwaith fideo i dderbyn ystyriaeth, darparwch ddolen i weld y ffilm ar-lein.


Anfonwch eich cais ar yr e-bost i [email protected] erbyn 23.59pm GMT ar Ddydd Gwener 19 Mai 2023.

Os yw eich ffeiliau'n rhy fawr i gael eu hanfon mewn e-bost, cyflwynwch eich cais drwy WeTransfer

Yn anffodus, ni fydd unrhyw geisiadau anghyflawn yn derbyn ystyriaeth

Bydd panel beirniadu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Ffotogallery ac o Disability Arts Cymru yn adolygu’r ceisiadau i gyd. Bydd yr artistiaid a roddir ar y rhestr fer yn derbyn gwahoddiad i drafod eu cynnig

Hawliau'r Delweddau

Mae'r ymgeiswyr yn cadw perchnogaeth a hawlfraint y ffotograffau a anfonant i mewn. Mae hawl gan Ffotogallery i gyhoeddi'r holl geisiadau a ddewisir mewn cylchgronau neu lyfrau, ar wefannau, neu mewn unrhyw gyfrwng arall, yn ôl disgresiwn Ffotogallery. Bydd unrhyw ddefnydd fel hyn wedi ei gyfyngu i ddefnydd gan Ffotogallery i hyrwyddo, i roi cyhoeddusrwydd, newyddion neu wybodaeth addysgiadol neu i godi ymwybyddiaeth. Trwy gymryd rhan, mae'r holl ymgeiswyr a ddewisir yn caniatáu i Ffotogallery ddefnyddio delweddau ac yn cydnabod y gall Ffotogallery ddefnyddio'r ceisiadau a chredyd enw mewn unrhyw gyfrwng cyn, yn ystod ac wedyn, heb gyfyngiad o ran y defnyddiau a nodir uchod. Ni fydd gofyn i Ffotogallery dalu unrhyw ystyriaeth ychwanegol na cheisio unrhyw gymeradwyaeth ychwanegol mewn cysylltiad â defnydd o'r fath.

Trwy gyflwyno eich gwaith i'r alwad agored hon, rydych yn cytuno i'r telerau uchod.