Sianel / 3 Ebr 2023

Galwad Agored: The Higgins Photography Initiative (in Ffocws)

Mae menter ‘The Higgins Photography Initiative‘ yn fenter newydd lansiwyd gan Cardiff MADE mewn partneriaeth â Ffotogallery i redeg ochr yn ochr â chynllun ffocws sy’n cefnogi artistiaid newydd sy’n gadael addysg uwch gyda rhaglen datblygu gyrfa. Mae ‘The Higgins Initiative” yn chwilio am ymgeiswyr nid yw ar hyn o bryd mewn addysg uwch sy’n gallu profi ymgysylltiad sylweddol â ffotograffiaeth a chyfryngau lens, gydag uchelgeisiau i barhau a datblygu eu hymarferiad ffotograffiaeth hyd at safon broffesiynol.

Gan dynnu ar gronfa o arbenigedd o ffotograffwyr proffesiynol ac addysgwyr ledled y ddinas byddwn yn bugeilio hyd at bedwar unigolyn detholedig tuag at gyflwyno corff o waith yn Ffotogallery ym mis Tachwedd 2023, ar y cyd a’r garfan ffocws 2023-24, sef carfan o ffotograffwyr graddedig newydd.

Am y Galwad Agored

‘Dyn ni’n deall nad oes gan bawb y cyfle i astudio ar safon addysg uwch, neu efallai bod amser maith wedi pasio ers hyn, sef y rheswm pam ‘dyn ni’n cyflwyno’r galwad agored ‘Higgins Open Call’ yn benodol ar gyfer ffotograffwyr sydd yn y broses o ddatblygu eu gweledigaeth ffotograffig, sydd ddim ar hyn o bryd yn astudio’r celfyddydau ar safon addysg uwch.

Yn lansio’r galwad agored ym mis Ebrill, bydd cyfres o sgyrsiau i gyflwyno’r gwahanol safbwyntiau a gwaith y ffotograffwyr proffesiynol bydd yn gweithredu fel mentoriaid i’r cydgyfrannogion.

Bydd y galwad agored yn rhedeg o 15fed o Ebrill hyd at ddiwedd Mai 2023 ac am ddim i ymgeisio.

Beth ydyn ni’n chwilio amdano?

‘Dyn ni eisiau gweld creadigrwydd, dilysrwydd, a brwdfrydedd yn disgleirio trwy eich gwaith; yn enwedig agwedd sy’n gorfoleddu mewn manylion, yn sylwi ar yr anghofiedig, agwedd o ryfeddod, seinio’r ymylol, unai gydag empathi neu ymdeimlad o ymholiad.

Cafodd y fenter ei hysbrydoli gan waith Tom Higgins, ffotograffwyr uchelgeisiol y bu ei arddangosfa ddiweddar In Praise of Famous Bins, yn cyflwyno dehongliad ar anghydraddoldeb dynol drwy hiwmor ac arsylw ffraeth, yn fframio momentau sylwodd wrth gerdded ar hyd tirwedd leol/rhyngwladol ,neu ofodau trefol, gyda bin fel amnewidiad dynol.

Mwy o wybodaeth