Sianel / 23 Rhag 2019

2019 yn gryno: Blwyddyn Newydd Dda

Wrth i 2019 ddirwyn i ben, dyma’r adeg orau i fyfyrio ar bopeth y mae Ffotogallery wedi’i gyflawni eleni ynghyd â’r cyfraniad rhyfeddol y mae ein Bwrdd, staff, gwirfoddolwyr ac artistiaid preswyl wedi eu gwneud i lwyddiant parhaus y sefydliad.

Yn y chwe mis cyntaf eleni, cawsom ein harddangosiadau olaf yn Turner House a Stryd y Castell - Amak Mahmoodian, Lua Ribiera, Michal Iwanowski, Marcelo Brodsky a Paul John Roberts ac, wrth gwrs, cynhaliwyd pedwaredd gŵyl ddwyflynyddol wych Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, gyda’r thema Sound+Vision. Gŵyl Diffuson 2019 oedd y fwyaf uchelgeisiol o’r pedair, yn guradurol, ac aeth ati i archwilio nifer o agweddau o ‘ffotograffiaeth ehangedig’ a’r berthynas rhwng y gweledol a’r sain, o ffotograffiaeth 3D a sinema trochi 360 gradd gyda pherfformio byw, i osodiadau rhyngweithiol a phrosiectau rhyngddisgyblaethol ar lwyfannau ffisegol a rhithwir ochr yn ochr. Yn ystod Diffusion, aethom ati’n ffurfiol i lansio’r prosiect Creative Europe – A Woman’s Work, gyda symposiwm yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Liminality at Diffusion 2019 (Photo by Phil Jenkins)

Mewn partneriaeth guradurol gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoliad, comisiynwyd chwe artist a ffotograffydd o Gymru i gynhyrchu gwaith newydd ar gyfer arddangosfa deithiol, Many Voices, One Nation, y mae Ffotogallery yn ei chymryd ar daith o Gaerdydd i Aberystwyth, o Ferthyr i Gaernarfon.

Installation shot of Luce + Harry's work at Aberystwyth Arts Centre (Many Voices, One Nation)

Ym mis Mehefin, cawsom symud o’r diwedd i gartref newydd Ffotogallery yn Cathays, Caerdydd ac ar ôl gosod popeth allan yn gychwynnol, aethom ati i agor ein drysau i’r cyhoedd ym mis Medi gyda Croeso, sef arddangosfa o weithiau dethol o’n harchif sydd â dinas Caerdydd yn bwnc iddynt. Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr cawsom gyflwyno’r arddangosfa fawr gyntaf yn ein cartref newydd, The Place I Call Home, sef arddangosfa draws-ddiwylliannol fawr sy’n defnyddio ffotograffiaeth i archwilio’r syniad o gartref drwy brofiadau pobl sy’n byw yng Ngwlff Arabia a’r Deyrnas Unedig mewn cyfnod o newid cyflym a symudedd cymdeithasol. Ochr yn ochr â hyn, aethom ati i gyflwyno cynyrchiadau ar wahân o’r arddangosfa yn Kuwait, Oman a Qatar. Erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, bydd The Place I Call Home wedi cael ei chyflwyno mewn 10 lleoliad mewn 7 gwlad.

Ffotogallery's new home in Cathays, Cardiff

Mae’r momentwm yn parhau wrth i ni symud i mewn i 2020 ac, o fis Ionawr ymlaen, byddwn yn cyflwyno arddangosfeydd unigol a grŵp yng Nghaerdydd, Cymru, Ewrop a’r Dwyrain Canol. Byddwn hefyd yn datblygu ein gofod a’n cyfleusterau i gynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau celf a chymunedol ac i fod mor gynhwysol a chroesawgar ag y gallwn fod i’n holl ymwelwyr. Gartref ac ‘ar ein taith’, rydym yn hynod falch o gyflwyno celfyddyd weledol o safon uchel, darparu llwyfan i dalent sy’n dod i’r amlwg, a dyfnhau ymgysylltiad y gynulleidfa gyda ffotograffiaeth gyfoes a chelfyddyd y lens, ymhob un o’i ffurfiau.

Blwyddyn Newydd Dda!

David Drake
Cyfarwyddwr, Ffotogallery