Sianel / 28 Medi 2020

Newyddlen mis Medi

© Robert Law

Nifer o Leisiau Un Genedl 2

Wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo, mae Ffotogallery yn ail agor ei ddrysau gydag arddangosfa sy’n cyflwyno golwg fwy optimistaidd ar ddyfodol ein cenedl. Rydym wedi gwahodd pobl broffesiynol o fyd ffotograffeg ledled Cymru i enwebu ffotograffwyr, myfyrwyr ac artistiaid y mae eu gwaith yn cynnig cipolwg ar fywyd cyfoes, ac yn cynrychioli ehangder y ddawn sydd i’w chael yng Nghymru sy’n haeddu cael ei gweld yn ehangach. Detholwyd deuddeg artist ledled Cymru, i adlewyrchu’r amrywiaeth eang o bynciau a gwahanol agweddau ar ffotograffeg. Rydym yn rhagweld bydd yr arddangosfa’n agor yn Ffotogallery yn gynnar ym mis Tachwedd (ar yr amod bod y canllawiau iechyd cyhoeddus yn caniatáu hynny), a bydd yr union ddyddiadau’n cael eu cyhoeddi cyn hir.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr artistiaid a ganlyn wedi eu dewis ar gyfer yr ail fersiwn hwn o Nifer o Leisiau, Un Genedl:

Abby Poulson, Antonia Osuji, Cynthia Sitei, Ethan Beswick, Jack Osborne, Jo Haycock, John Manley, Kaz Alexander, Lucy Purrington, Matthew Eynon, Mohamed Hassan a Robert Law.

Mwy o wybodaeth

© Philip Jenkins

Swydd Trysorydd yn Ffotogallery

Rydym yn chwilio am unigolyn fydd yn gallu ein helpu i weithredu gweledigaeth dymor hir newydd i’r sefydliad wrth i ni geisio datblygu model busnes sy’n adfer y sefydliad i sefyllfa gadarn, yn cyflawni ei botensial ac yn galluogi i’w gronfeydd rhydd dyfu. Mae aelodau’r Bwrdd yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau llywodraethu da ar y sefydliad, yn ogystal â bod yn llysgenhadon i waith y sefydliad ac i ffotograffeg yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth

© Olivia Gay

Yr Artist dan Sylw ym mis Medi – Olivia Gay

Am fwy nag 20 mlynedd mae Olivia Gay wedi bod yn tynnu lluniau o fenywod sy’n gweithio fel gweinyddesau, gweithwyr siop, puteiniaid, lleianod, gweithwyr ffatri, gweithwyr domestig; merched sy’n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid; merched yn y carchar. Mae hi’n cymryd ei hamser, saith mlynedd neu fwy yn aml iawn—i ganiatáu i barch, ymddiriedaeth a dealltwriaeth ddyfnhau. Mae ‘A Woman’s Palace’ yn dogfennu menywod sy’n byw yn Le Palais de la Femme, sef casgliad o dai cymdeithasol ym Mharis sy’n rhoi lle i fenywod o bob cenedl, yn famau sengl neu ddibriod, rhai a fu’n ddigartref, a rhai sydd wedi dioddef trais neu anhwylderau meddyliol. Mae Olivia yn un o’r artistiaid a ddewiswyd i gyfrannu at y prosiect a ariannwyd gan Creative Europe, A Woman’s Work.

Mwy o wybodaeth

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y rhain hefyd:


FfotoBARRIthon

Bydd y FfotoBARRIthon, sy’n digwydd ar 10 Hydref, yn rhoi cyfle i ffotograffwyr proffesiynol ac amatur fel ei gilydd gyflwyno eu hargraffiadau creadigol o olygfeydd, seiniau a chymeriadau’r dref. Mae’n bleser mawr gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, ymuno â’r panel o feirniaid ar y diwrnod. Mae’n rhaid cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.

Mwy o wybodaeth

Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth

Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd ar ôl i gyflwyno eich cynnig i’r galwad agored ar gyfer Dychmygu’r Genedl-Wladwriaeth! Defnyddiwch y ddolen isod i ganfod rhagor o wybodaeth am y thema, sut i wneud cais a’r meini prawf cymhwysedd. Hefyd gwelwch @chennaiphotobiennale lle mae rhai o’r beirniaid wedi eu cyhoeddi erbyn hyn.

Mwy o wybodaeth

Lates: PITCH BLACK

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Artes Mundi wedi cyfuno i gyflwyno galwad am artistiaid, pobl greadigol, perfformwyr a gweithredwyr sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng i gyfrannu at Lates: PITCH BLACK, sef digwyddiad rhyngweithiol i ymgolli ynddo sy’n cynnwys ffurfiau niferus o gelfyddydau, sy’n dathlu pobl dduon yng Nghymru a’u cyfraniadau eithriadol gadarnhaol i gymdeithas.

Mwy o wybodaeth

Galwad am Gynigion: PhotoIreland 2021

Mae Gŵyl PhotoIreland yn gwahodd artistiaid ac ymarferwyr cenedlaethol a rhyngwladol, yn cynnwys awduron, ymchwilwyr, curaduron, rhai sefydledig a rhai sy’n dod i’r amlwg, i gynnig gweithiau i fod yn rhan o Ŵyl PhotoIreland 2021, gan ymuno ag ymarferwr gwadd. Bydd y 12fed ŵyl yn digwydd yn Nulyn ym mis Gorffennaf 2021, gydag arddangosfeydd a digwyddiadau ar waith drwy gydol y mis.

Mwy o wybodaeth

Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn y diweddariadau hyn yn syth i'ch mewnflwch