Sianel / 9 Awst 2019

The Place I Call Home

Mae ‘Cartref’ yn thema sy’n uno pobl – gall pawb uniaethu ag o, mae gan bawb deimlad neu farn amdano. Mae’r gair ei hun yn sbarduno syniadau o le, teimlad, atgof neu hunaniaeth. Pan fyddwn yn byw oddi cartref, rydym yn cymryd profiadau diwylliannol gyda ni sy’n creu synnwyr o fod ‘adref’ mewn lle estron.

Mae The Place I Call Home yn brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth gyfoes i archwilio’r syniad o ‘gartref’ mewn perthynas â phrofiadau pobl ifanc sy’n byw yn y Gwlff ac yn y Deyrnas Unedig mewn cyfnod o newid cyflym a symudedd cymdeithasol. Mae’r prosiect yn cynnwys arddangosfa ffotograffig a rhaglen allgymorth cyhoeddus a fydd yn teithio i chwe gwlad y Gwlff a’r Deyrnas Unedig yr hydref hwn.

Yn dilyn ymweliadau cwmpasu â phob un o chwe gwlad Cyngor Cydweithredol y Gwlff, mae cyfarwyddwr Ffotogallery David Drake wedi penderfynu ar y weledigaeth a’r dull curadurol ar gyfer yr arddangosfa ac mae wedi comisiynu nifer o artistiaid i gynhyrchu gwaith sy’n ymateb i’w themâu. Mewn gwahanol ffyrdd, mae gwaith yr artistiaid dewisedig yn ymwneud â rhannu straeon am ddiwylliant a threftadaeth, herio stereoteipiau, archwilio eu hunaniaeth, elfennau cyffredin a gwahaniaethau.

Dyma’r artistiaid sydd wedi’u cadarnhau hyd yn hyn:

Abi Green (gyda Sebastian Betancur-Montoya), Ben Soedira, Dilmuni Couple (Hussain Almosawi a Mariam Alarab), Eman Ali, Gillian Robertson, Josh Adam Jones, Mai Almoataz, Moath Alofi, Mohammed Al-Kouh, a Richard Allenby-Pratt.

Canlyniad y comisiynau hyn fydd un arddangosfa ymhob un o wledydd Cyngor Cydweithredol y Gwlff (Yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Kuwait, Oman, Qatar, Saudi Arabia and Bahrain), a phedair arddangosfa yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys safle Ffotogallery ei hun yng Nghaerdydd, Cymru. Mae’r gwaith ar y cyd mewn cyfryngau cymysg, gan adlewyrchu ystod amrywiol yr arferion ffotograffig a’r gwahanol agweddau tuag at adrodd straeon yn greadigol. Trwy’r arddangosfa a’i rhaglen allgymorth gysylltiedig, ein nod yw annog ac ysbrydoli pobl ifanc i godi camera a defnyddio ffotograffiaeth fel cyfrwng ar gyfer rhannu eu straeon a’u profiadau eu hunain.

The Place I Call Home fydd yr arddangosfa ffurfiol gyntaf yng nghartref newydd Ffotogallery yn Cathays, sy’n digwydd o fis Hydref hyd fis Rhagfyr 2019 (nid yw’r union ddyddiadau wedi eu cadarnhau eto).