Sianel / 13 Mai 2021

Rydyn ni'n ail agor!

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd Ffotogallery yn ail agor ei ddrysau i’r cyhoedd ar Ddydd Mercher 19 Mai 2021 fel bod ymwelwyr yn gallu mwynhau Nifer o Leisiau, Un Genedl 2, sef arddangosfa sy’n cyflwyno golwg fwy optimistaidd ar ddyfodol Cymru. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gwaith deuddeg o ffotograffwyr dawnus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae’n dangos cyfoeth ac amrywiaeth daearyddiaeth, diwylliant a chymdeithas y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd a newid mawr.

Cychwynnodd y rhaglen Nifer o Leisiau, Un Genedl ei bywyd fel arddangosfa deithiol a ddatblygwyd fel cydweithrediad rhwng Ffotogallery a Senedd Cymru, oedd yn nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.

Rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’n cyfleusterau yn ystod y cyfnod clo, gan gynnwys tafluniad a sain o ansawdd da, llyfrgell/archif gyhoeddus, arddangosiadau siop a derbynfa newydd, toiledau cwbl hygyrch a thechnoleg ddigyffwrdd drwy’r lle i gyd, ynghyd â lle i gynnal cyfarfodydd cymunedol, gweithdai a digwyddiadau.

Os byddwch eisiau ymweld fel grŵp, neu os oes gennych ofynion arbennig, cysylltwch ar [email protected] o flaen llaw os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu sicrhau bod eich profiad mor gyfoethog a hwyliog ag sy’n bosibl. Mae gofyn i’r holl staff ac ymwelwyr wisgo masgiau yn y mannau cyhoeddus, parchu rheolau cadw pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo’n rheolaidd gan ddefnyddio dŵr poeth neu hylif diheintio o’r dalwyr sebon sydd i’w cael drwy’r adeilad i gyd. Rydym yn gofyn i ymwelwyr hefyd gofrestru eu manylion cysylltu yn y dderbynfa neu ddefnyddio ap y GIG ar eu ffonau clyfar neu lechen.

Mae’r arddangosfa hon, sy’n addas i deuluoedd, wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gronfa Adferiad Ddiwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd hefyd wedi galluogi i Ffotogallery wneud ei oriel yn ddiogel rhag Covid, yn hygyrch ac yn groesawgar i ymwelwyr. Mae croeso bob amser i gŵn ar dennyn sy’n ymddwyn yn dda.