Sianel / 18 Mai 2020

Gair Wythnosol - 18/5/20

Croeso i’r wythfed rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o gartref i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw yn eich cartrefi, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

courtesy of Richard Downs

Amser Cystadlu – Ffotograffiaeth golau isel

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #archive yr wythnos diwethaf, Richard Downs! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.

"I thought you might enjoy the attached old photo of members of the West Kirby Youth Hostel Association on a trip to Wales, some time in the 1950s. My mother (now in her mid-eighties) has many happy memories of hikes and bike tours with the group and was sent a CD-ROM of similar images a few years ago, mostly taken by the club chairman Don Ryan. [...] There is unquestionably a sense of melancholy that comes with viewing the images in the collection, knowing that all those young, happy folk are now passed or nearing the end. The attached photo particularly captures the spirit and camaraderie of the group. Just a moment in time so long ago."
- Richard Downs

Ar gyfer y gystadleuaeth yr wythnos hon, hoffem i chi arbrofi gyda ffotograffiaeth golau isel. Cawsom ein hysbrydoli y tro hwn gan brosiect Zillah Bowes ar gyfer Many Voices, One Nation sy’n canolbwyntio ar gymuned ffermio mynydd yn Sir Faesyfed. Tynnodd Bowes luniau o’r pethau yn ei ffotograffau tu allan yn yr awyr agored gyda dim ond y lleuad yn goleuo’r llun. Os oes gennych ardd, yna beth am roi cynnig ar yr un dull o ddefnyddio golau’r lleuad neu olau’r stryd i oleuo eich llun? Neu, arbrofwch dan do yn y nos gyda golau tortsh neu’r golau naturiol i greu effaith ddramatig.

Molly 'Frondorddu' © Zillah Bowes

Sut i roi cynnig arni:

Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #lowlightphotography. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau: Hanner nos ar Ddydd Sul 17 Mai

Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:

Ceisiadau’r wythnos diwethaf

Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth #archive yr wythnos diwethaf. Ewch draw i’n tudalen ‘Sianel’ i weld y ceisiadau dros yr wythnosau a’r diweddaraf gan Ffotogallery hefyd.

Mwy o wybodaeth

Nifer o Leisiau, Un Genedl Ar-lein

Peidiwch ag anghofio ymweld â ffotoview.org lle gallwch ganfod rhagor am bob un o’r artistiaid a gomisiynwyd ar gyfer Many Voices, One Nation, arddangosfa deithiol dan guraduraeth Ffotogallery a Senedd Cymru.

Mwy o wybodaeth

Impressions Gallery

Galwch draw i wefan Impressions Gallery i ganfod pob math o adnoddau ar-lein, fel gwaith celf digidol, prosiectau a digwyddiadau ar-lein (yn cynnwys adolygiadau o bortffolios ar-lein yn rhad ac am ddim).

Mwy o wybodaeth

Ffotogallery Platform

Yr wythnos hon ar @ffotogalleryplatform, bydd yr artist gweledol a sonig o’r Iwerddon, Sarah Lundy, yn rhannu ei gwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfrif isod.

Mwy o wybodaeth

Yr Olwg Gyntaf ar Fideo The Group Photo.2017

Mae Gallery of Photography Ireland wedi dangos am y tro cyntaf ddarn fideo newydd ei gomisiynu ar gyfer cyflwyniad ar-lein ‘Dream is Wonderful, Yet Unclear’ gan Maria Kapajeva. Mae arddangosfa Kapajeva yn rhan o A Woman’s Work, prosiect a ariannwyd gan Creative Europe i archwilio natur llafur merched drwy ffotograffau.

Mwy o wybodaeth

Cyfweliad gyda John Paul Evans

Darllenwch y cyfweliad hwn gyda’r ffotograffydd John Paul Evans, sy’n siarad am ei waith dros y blynyddoedd yn cynnwys ei brosiect ‘Home Sweet Home’, a gomisiynwyd gan Ffotogallery yn 2015 ar gyfer Gŵyl Diffusion.

Mwy o wybodaeth