Sianel / 27 Ebr 2020

Gair Wythnosol - 27/4/20

Croeso i’r pumed rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o adre i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw gartref, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.


© Lewis Cole (@mred1tor)

Amser Cystadlu

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #petportrait yr wythnos diwethaf, Lewis Cole (@mred1tor)! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.


Y thema newydd ar gyfer cystadleuaeth yr wythnos hon yw hun-lun. Rydym eisiau i chi ddefnyddio cymaint ar eich dychymyg ag y gallwch wrth drin y thema hon, ac rydym yn deall yn iawn nad ydy pawb yn hoffi tynnu lluniau ohonynt eu hunain – felly beth am fod yn greadigol a defnyddio adlewyrchiad, cysgodau neu hyd yn oed wrthrych neu le sy’n dweud llawer amdanoch chi? Peidiwch â bod ofn arbrofi.


Sut i roi cynnig arni:

Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #selfie. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.


Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:

Oriel Ar-lein – Ceisiadau’r Gystadleuaeth

Fel roedden ni wedi’i addo, rydym wedi sefydlu oriel ar-lein erbyn hyn i ddangos yr holl geisiadau a dderbyniwn bob wythnos. Mae’r rhain ar gael i’w gweld ar ein tudalen ‘Sianel’, a dyma lle cewch chi’r diweddariadau gan Ffotogallery hefyd.

Mwy o wybodaeth

Pecynnau gweithgaredd dan arweiniad artist

Mae Firtsite wedi bod yn gweithio gydag amrywiol artistiaid i greu pecynnau gweithgaredd y gallwch eu lawrlwytho am ddim i’w defnyddio gartref. Mae’r pecyn diweddaraf yn cynnwys cynigion gan Vanley Burke, Sarah Lucas a Cornelia Parker.

Mwy o wybodaeth

Photography for Well-being

Pwrpas e-lyfr rhad ac am ddim Lee Aspland, Photography for Well-being, yw gwneud gweithgareddau ffotograffig ystyriol a chreadigol. Mae gan bob gweithgaredd ffotograffiaeth strwythur cyffredin ac maen nhw’n cynnwys nodweddion sy’n cydweithio i gefnogi eich lles corfforol a meddyliol. Lee yw’r artist preswyl ar hyn o bryd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Mwy o wybodaeth

Ffotogallery Platform

Drwy gydol yr wythnos hon ar @ffotogalleryplatform mae’n bleser mawr gennym gael y ffotograffydd dogfennol a phortreadau Leia Ankers yn rhannu ei phrosiect ‘Airsoft Wankers’.

Mwy o wybodaeth

Cardiff MADE – Terra

Bydd Arddangosfa Agored y Gwanwyn flynyddol Cardiff MADE yn digwydd ar-lein o’r 30ain, a bydd gweithiau dethol yn cael eu dangos ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn catalog digidol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y diweddariadau ar eu gwefan.

Mwy o wybodaeth

Aesthetica Art Prize 2020

Mae Aesthetica yn chwilio am artistiaid sy’n ailddiffinio paramedrau celf gyfoes. Mae’r Wobr yn agored i wahanol feysydd o gelf yn cynnwys ffotograffau, cerflunio, gosodiad, cyfryngau digidol, fideo, peintio a mwy.

Mwy o wybodaeth

Cefnogaeth i artistiaid a gweithwyr creadigol llawrydd yn y DU:

Cyngor Celfyddydau Cymru

a-n

Independent Arts Project