Sianel / 4 Mai 2020

Gair Wythnosol - 4/5/20

Croeso i’r chweched rhifyn o air wythnosol Ffotogallery! Er bod ein swyddfeydd a’n horiel ar gau, rydym yn dal ati i weithio o adre i ddod â’r diweddaraf i chi, yn cynnwys gweithgareddau creadigol y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw gartref, adnoddau y gallwch eu pori ar-lein, a byddwn yn rhannu cynigion gan fudiadau celfyddydol eraill gyda chi hefyd.

© Richard Pike (@pikeandvitkus)

Amser Cystadlu

Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth ffotograffau #hun-lun yr wythnos diwethaf, Richard Pike (@pikeandvitkus)! Diolch i bawb a gymerodd yr amser i anfon eu ceisiadau i mewn.

Yr wythnos hon rydym yn troi’n fwy ymarferol gyda’n thema newydd – collage ffotograffau. Cawsom ein hysbrydoli gan ein harddangosfa o waith Katrien De Blauwer yn 2018 a hoffem i chi nôl eich siswrn a’ch ffyn glud a rhoi cynnig ar wneud eich collage ffotograffau eich hun. Byddwch angen hen gylchgronau, papurau newydd neu gopïau o ffotograffau nad oes ots gennych chi eu torri nhw. Ystyriwch ychwanegu ychydig o liw neu rywfaint o destun. Unwaith y byddwch wedi gorffen, tynnwch lun a’i anfon gan ddefnyddio’r manylion isod. Peidiwch â bod ofn arbrofi.

© Katrien De Blauwer, from 'Reprise' exhibition 2018

Sut i roi cynnig arni:

Mae’n syml. Postiwch eich ffoto ar Instagram, tagiwch @ffotogallery, a defnyddiwch yr hashnod #collage. Byddwn yn postio ein ffefrynnau ar ein cyfrif, a bydd y llun buddugol yn ymddangos yn y gair wythnosol wythnos nesaf.

Os nad ydych yn defnyddio Instagram, peidiwch â phoeni! Gallwch e-bostio eich lluniau atom ar [email protected], ond cofiwch gynnwys enw’r person a dynnodd y llun.

Efallai y byddwch eisiau cael cipolwg ar y rhain hefyd:


Image: Milda Books

Maria Kapajeva – Dream is Wonderful, Yet Unclear

Yn rhan o A Woman’s Work, mae Gallery of Photography Ireland yn cynnal lansiad llyfr ar-lein ar 7 Mai, i ddathlu rhyddhau cyhoeddiad Maria Kapajeva, ‘Dream is Wonderful, Yet Unclear’. Gallwch ganfod rhagor ac ymuno â’r digwyddiad isod.

Mwy o wybodaeth


Ceisiadau’r wythnos diwethaf

Nawr gallwch weld yr holl geisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth #portread anifail anwes yr wythnos diwethaf. Ewch draw i’n tudalen ‘Sianel’ i weld y ceisiadau dros yr wythnosau a’r diweddaraf gan Ffotogallery hefyd.

Mwy o wybodaeth


Creu Amgueddfa gyda Minecraft

Mae Amgueddfa Cymru’n gwahodd pobl ifanc 7-11 oed i adeiladu eu hamgueddfeydd delfrydol eu hunain gan ddefnyddio Minecraft. Mae rhagor o wybodaeth ar eu gwefan a chymorth i’ch helpu i gychwyn arni.

Mwy o wybodaeth


Instagram Byw gydag Edgar Martins

Bydd Edgar Martins a The Moth House yn cynnal sgwrs gan yr artist ar Instagram Live ar 7fed Mai. Bydd Martins yn trafod ei lyfr diweddaraf ‘What Photography and Incarceration Have in Common with an Empty Vase’, yn ogystal â chymryd cwestiynau gan wylwyr.

Mwy o wybodaeth


Ffotogallery Platform

O fory ymlaen, mae David Collyer yn cymryd yr awenau ar ein cyfrif @ffotogalleryplatform drwy’r wythnos gyfan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfrif a chymerwch gipolwg ar dudalen Instagram David lle mae wedi bod ar y rheng flaen yn tynnu lluniau o’r argyfwng Covid-19 yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth


Sut i fod yn ffotograffydd ar hyn o bryd

Yn yr erthygl hon, mae’r ffotograffydd, awdur a churadur Aaron Schuman o Fryste yn siarad am 3 artist sy’n wynebu Covid-19 a sut mae’r pandemig wedi newid eu bywydau a’u gwaith.

Mwy o wybodaeth


Galwad Agored gan Wyl Ffoto Athen

Mae Gŵyl Ffoto Athen 2020 yn derbyn cyflwyniadau o bob genre sail delweddau gan artistiaid sydd wedi eu sefydlu’n barod a rhai sy’n dechrau dod i’r amlwg. Y dyddiad cau estynedig yw 14eg Mai 2020.

Mwy o wybodaeth