Mae ystafell lyfrgell ac oriel olau hyfryd Ffotogallery ar gael drwy’r flwyddyn gron i’w hurio ar gyfer digwyddiadau cymunedol, sesiynau gweithdy, diwrnodau cwrdd i ffwrdd, a rhagor.
Mae’r oriel yn fan unigryw ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio, lansiadau’r wasg neu weithgareddau cymunedol, ac mae ein llyfrgell yn cynnig lle preifat ar gyfer cyfarfodydd, diwrnodau cwrdd i ffwrdd neu adolygiadau portffolio.
Dyma rai o’r cyfleusterau:
Y nifer fwyaf a argymhellir yn y galeri yw 200 o bobl (yn sefyll), a 30 yn y llyfrgell.
Dyma’r prisiau hurio:
Cyfradd fesul awr / Cyfradd fesul diwrnod
Oriel: £50 + TAW / £300 + TAW
Llyfrgell: £30 + TAW / £180 + TAW
Gallwn gynnig gostyngiadau i elusennau a grwpiau a arweinir gan y gymuned.
Anfonwch e-bost i alex@ffotogallery.org i drafod pecyn hurio a fydd wedi ei deilwra’n arbennig i chi, ac unrhyw gwestiynau sydd gennych. Rydym yn hapus i bobl hurio am nifer o ddiwrnodau, a byddwn yn ystyried y ceisiadau hyn yn ôl yr achos unigol.
Nodwch os gwelwch yn dda nad yw’r prisiau uchod yn cynnwys hurio’r oriel ar gyfer arddangosfeydd.