Mae A Woman’s Work’ yn brosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau digidol i gywiro’r diffyg hwnnw drwy waith artistig ar y cyd a chyfnewid gwaith ar draws ffiniau, a chyd-gynhyrchu arddangosfeydd, cyhoeddiadau ac adnoddau ar-lein sy’n herio’r ffordd y mae diwydiant a’r rhywiau’n cael eu gweld fel arfer yn Ewrop. Mae’r prosiect yn archwilio’r berthynas newidiol rhwng y cartref a’r gweithle, a sectorau twf fel y diwydiant cyllid, y cyfryngau a thelegyfathrebu, lle mae gwaith merched yn cael ei ailddiffinio drwy ddatblygiadau technolegol a datblygiadau wedi’r globaleiddio.
Mae teimlo’n ‘gartrefol’ mewn lle yn cynnwys nifer o bethau – ymdeimlad o berthyn, cynefindra, annibyniaeth, sicrwydd ac argoelion. Mae ‘cartref’ yn air sydd yn diasbedain yn emosiynol ymhell y tu hwnt i’w ystyr llythrennol, sef ‘ble mae rhywun yn byw’.
Cynrychiolir cartref gan gyfuniad o ffactorau: cysylltiad â’r lle mae rhywun yn preswylio, agosrwydd teulu a ffrindiau, hunaniaeth bersonol a chymunedol, ffordd o fyw a gweithio, a gwerthoedd a phrofiadau a rennir.
Gyda'r newidiadau trawsffurfiol enfawr yn rhanbarth y Gwlff a'r DU – rhai geowleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol – mae sut y byddwn yn creu llefydd a mannau y teimlwn yn gartrefol ynddynt yn gwestiwn hynod berthnasol. Mae cyfleoedd ym maes eiddo, y cyfoeth newydd anferth o olew, nwy a mwynau, a globaleiddio a thechnoleg yn ysgogwyr pwerus i fasnach a thwf busnes. Mae cyfnewid rhyngddiwylliannol, addysg, arloesedd a chreadigrwydd hwythau yn rhoi momentwm i newid cymdeithasol positif, fel mwy o ryddid a symudedd, iechyd a lles, amrywiaeth a chynhwysedd, a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae'r ffactorau hyn yn gwneud ein dinasoedd a'n cymdogaethau'n haws byw ynddynt, ein cymunedau'n fwy bywiog a chytûn, a’n hymdeimlad o berthyn yn gryfach.
Mae The Place I Call Home yn arddangosfa a guradwyd gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol Cymru. Mae’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens i archwilio’r syniad o gartref yng nghyd-destun profiadau cyfoes y diaspora Arabaidd sy’n byw yn y DU, a phobl o Brydain sy’n byw yn y Gwlff.
Bydd gan yr arddangosfa, a gyflwynir yn chwe gwlad Arabaidd y Gwlff ac yn y DU yn 2019/ 20, dair thema gydblethedig:
Gŵyl fis o hyd, ddwyflynyddol o ffotograffiaeth ryngwladol yw Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, a gynhelir yng Nghaerdydd, prifddinas Cymru. Crewyd yr ŵyl gan Ffotogallery ac fe’i cynhelir ar y cyd â chylch eang o bartneriaid a chefnogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae Diffusion yn dathlu ffotograffiaeth a’r ddelwedd ffotograffig ar ei holl agweddau. Boed wedi ei chreu, ei chyhoeddi, ei harddangos, ei chasglu neu ei dosbarthu, yn gorfforol neu ar ffurf rithwir, mae gan y ffotograff y pŵer i ennyn ac esgor ar adwaith, i adlewyrchu ein profiad ein hunain ac eiddo cymdeithas sy’n esblygu o’n cwmpas.
Menter gydweithredol yw Rhagolygon Ewropeaidd: Archwiliadau Gweledol o Gyfandir Heb Ei Ddarganfod; prosiect sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chelf gyfoes i archwilio cwestiynnau am hunaniaeth a phrofiad mewn Undeb Ewropeaidd sydd wedi ehangu. Partneriaid craidd y fenter yw Ffotogallery yng Nghaerdydd, Fotosommer Stuttgart, Cymdeithas Ffotograffwyr Lithiwania yn Kaunas a Le Château d’Eau yn Toulouse. Mae’r prosiect yn cynnig gofod newydd i artistiaid ac asiantau Ewropeaidd i rannu profiadau ac arfer a chreu llwyfan ehangach i’w gwaith ledled Ewrop. Mae’r rhaglen wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Sefydliad Diwylliannol Ewropeaidd, Rhaglen Ddiwylliant yr Undeb Ewropeaidd, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Prifddinas y Dalaith yn Stuttgart a Gweinyddiaeth Gwyddoniaeth, Ymchwil a’r Celfyddydau Baden-Württemberg.
Dreamtigers yw project newydd mawr Ffotogallery, lle mae artistiaid a gwneuthurwyr celf proffesiynol o India a Chymru yn cydweithio ar greu a chyflwyno gwaith newydd sy’n adlewyrchu sut y mae creadigrwydd, technoleg ac ymdeimlad o’r newydd o hunaniaeth genedlaethol yn llunio bywydau cenedlaethau i ddod mewn cymdeithas fyd-eang.
Defnyddir ffotograffiaeth a chyfryngau’n seiliedig ar lens i archwilio’r ‘India go iawn’ a’r llall sy’n llawn mor bresennol a phwysig – yr India Ddychmygol sydd wedi esblygu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf a thrawsnewid ei hun yn y parth cyhoeddus ac ym meddyliau Indiaid. Bydd Dreamtigers yn dangos Cymru hithau fel cenedl sy’n wynebu’r dyfodol gan edrych allan ar y byd, a harneisio’i sgiliau creadigol, ei harloesedd a’i huchelgais er mwyn gwella rhagolygon ei holl ddinasyddion.
Mae Dreamtigers yn dod â ni a Sefydliad Nazar/Gŵyl Ffoto Delhi ynghyd. Craidd y project yw ymrwymiad i weithio ar y cyd, a amlygir mewn cyfleoedd cyfatebol i artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol o India a Chymru i deithio i wledydd ei gilydd a gweithio yno. Y canlyniadau allweddol fydd cydweithio creadigol ar ffurf cynllunio, datblygu a chydgynhyrchu arddangosfeydd, cyfnodau preswyl a chyfleoedd cyfnewid i artistiaid, a datblygu cynulleidfaoedd newydd trwy gyhoeddi mewn print ac ar-lein, rhaglenni addysgol, a gweithgareddau ymgysylltu digidol.
Y cyflwyniad ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2015 yw …the rest is smoke gan yr artist Helen Sear, Digwyddiad Cyfochrog ym 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia.
Cyfres o weithiau newydd yw …the rest is smoke, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a guradwyd gan Ffotogallery. Fe’u crewyd ar gyfer pum gofod ar wahân yn y Santa Maria Ausiliatrice, eglwys a chyn-gwfaint yn ardal Castello yn Fenis, lle dangosir hwy.