Ymuno & Chymorth

Gwirfoddoli

Tîm bychan sy’n rhedeg Ffotogallery o ddydd i ddydd, felly mae cymorth gwirfoddolwyr yn hynod o bwysig i’n galluogi i wneud popeth a wnawn!

Pam ddylwn i wirfoddoli gyda Ffotogallery?

Byddwch yn ennill profiad a sgiliau trosglwyddadwy gydag un o sefydliadau ffotograffig blaenllaw’r DU!

Rydym hefyd yn cynnig rhaglen o wobrwyon, digwyddiadau cymdeithasol yn arbennig i’n gwirfoddolwyr, a chylchlythyrau misol sy’n esbonio pa gyfleoedd sydd ar y gweill yn

Ffotogallery a thu hwn!

Dyma’r swyddi sydd ar gael gennym ar hyn o bryd:

Cynorthwyydd Goruchwylio Arddangosfa
Helpu i greu amgylchedd croesawgar yn yr oriel i bawb.

  • Helpu’r gweithredoedd blaen tŷ i redeg yn esmwyth i ymwelwyr
  • Trafod yr arddangosfa gyfredol gydag ymwelwyr, ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt
  • Cadw’r mannau cyhoeddus yn daclus a glân
  • Casglu unrhyw adborth gan ymwelwyr
  • Defnyddio system y lle gwerthu i werthu llyfrau

Cynorthwyydd Gosod
Gweithio ochr yn ochr â thîm Ffotogallery i osod arddangosfa yn yr oriel!

  • Cadw’r oriel yn daclus bob amser
  • Helpu i hongian gwaith ar y wal
  • Rhoi cyffyrddiadau paent funud olaf
  • Helpu i ddadbacio gwaith yn ddiogel

Cynorthwyydd Digwyddiadau
Cefnogi ein staff i redeg digwyddiadau wedi eu seilio yn yr oriel sy’n cysylltu â’r arddangosfa gyfredol.

  • Paratoi’r lle ar gyfer y digwyddiad
  • Gwirio’r tocynnau wrth y drws
  • Helpu gyda’r gweithredoedd blaen tŷ fel eu bod yn rhedeg yn esmwyth i’r ymwelwyr
  • Gweini bwyd a diod ysgafn o’r dderbynfa

Cynorthwyydd Gweithdy
Cydlynu gweithdai ar gyfer grwpiau cymunedol neu addysgol gyda’n rheolwr Ymgysylltu a Dysgu.

  • Helpu i baratoi’r lle ar gyfer sesiwn gweithdy
  • Dangos a chymryd rhan yn weithredol yng ngweithgaredd y sesiwn
  • Sgwrsio gyda phobl sy’n mynychu
  • Dosbarthu a chasglu ffurflenni caniatáu ffotograffau lle bo’n briodol
  • Gweithio yn ein horiel neu oddi ar y safle

I wneud cais am rôl wirfoddoli gyda thîm Ffotogallery, llenwch y ffurflen gais a’r arolwg monitro, a’u hanfon yn ôl i [email protected]

Cyfrannu

Mae Ffotogallery yn credu ym mhŵer ffotograffiaeth ers 40 mlynedd. Ein nod yn 2018 yw creu canolfan ffotograffiaeth o safon byd yng nghanol Caerdydd.

Canolfan wirioneddol gyfoes, wedi’i gwreiddio yn y cyd-destun lleol, a fydd yn cynnig cyfleodd creadigol i bobl o bob math ac yn canolbwyntio hefyd ar estyn allan, tua’r cyd-destun byd-eang. Rydym yn chwilio am safle yng Nghaerdydd i ddatblygu cartref newydd i Ffotogallery, a fydd yn cynnwys gofod stiwdio creadigol a chyfleusterau cynhyrchu i artistiaid a dylunwyr lleol.