Many Voices, One Nation 2

© Jack Osborne

Cyflwyniad

Rydym wedi gwahodd pobl broffesiynol o fyd ffotograffeg ledled Cymru i enwebu ffotograffwyr, myfyrwyr ac artistiaid y mae eu gwaith yn cynnig cipolwg ar fywyd cyfoes, ac yn cynrychioli ehangder y ddawn sydd i’w chael yng Nghymru sy’n haeddu cael ei gweld yn ehangach. Detholwyd deuddeg artist ledled Cymru, i adlewyrchu’r amrywiaeth eang o bynciau a gwahanol agweddau ar ffotograffeg.

Trwy gyfrwng yr arddangosfa ac yng ngwaith Ffotogallery yn y dyfodol, rydym eisiau sicrhau ein bod ni’n gwerthfawrogi’r rôl y mae pobl o bob rhan o’n cymuned yn ei chwarae i greu Cymru egnïol. Gwyddom y bydd y celfyddydau yng Nghymru’n gryfach, yn fwy cyffrous ac yn fwy perthnasol i fwy o bobl os byddwn yn croesawu amrywiaeth. Rydym yn mynd ati’n frwd i annog cyfranogaeth y cyhoedd ac ymgysylltiad y gynulleidfa gyda’r materion sy’n codi o’r arddangosfa.

Cychwynnodd Nifer o Leisiau, Un Genedl ei bywyd fel arddangosfa deithiol a ddatblygwyd drwy gydweithrediad rhwng Ffotogallery a Senedd Cymru, sy’n dathlu 20 mlynedd o ddatganoliad yng Nghymru.

Arddangosfeydd, Digwyddiadau ac Adnoddau

Artistiaid

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr artistiaid a ganlyn wedi eu dewis ar gyfer yr ail fersiwn hwn o Nifer o Leisiau, Un Genedl: