Abby Poulson

Mae Abby Poulson yn artist ffotograffau a aned ac a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin, Cymru. Mae hi’n defnyddio technegau heb gamera, prosesau argraffu amgen, gosodwaith a cherflunio, ac ar hyn o bryd mae ei gwaith yn archwilio tirwedd leol ei mamwlad, ac mae hi hefyd yn ymateb i bryderon amgylcheddol, a syniadau am fywyd gwledig, treftadaeth, cof a lle. Mae Abby hefyd yn guradur wrth ei gwaith, a chanddi frwdfrydedd mawr ynghylch datblygu rhwydweithiau creadigol yng nghefn gwlad i artistiaid sy’n dod i’r amlwg, ac mae ei gwaith wedi cael sylw ac wedi cael ei gyhoeddi yn eang.
Gallery
The Gathering Ground
Mae’r gweithiau hyn yn ymchwiliad personol mewn ymateb i’r cynnydd mewn annibyniaeth ym mamwlad yr artist, a’i chysylltiad hanesyddol â dŵr. Mae gan Gymru dri phrif gyflenwad dŵr sy’n darparu dŵr ar draws y ffin. Achosodd y gwaith o adeiladu’r cronfeydd hyn niwed i gymdeithas a diwylliant yng Nghymru, oherwydd collwyd cartrefi a chymunedau er mwyn cronni dŵr i genedl arall. Trwy gyfrwng materoliaeth, proses ac ystyriaeth, mae’r gweithiau hyn yn canolbwyntio ar arwyddocâd y dŵr hwnnw.
Sut mae’r dŵr hwn wedi effeithio ar y tir yn y gorffennol?
Sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru yn y dyfodol?