Artist

Cynthia MaiWa Sitei

Portrait of Cynthia MaiWa Sitei

Daw MaiWa yn wreiddiol o Kenya a symudodd i Loegr yn 2010 ac yna i Gymru yn 2017, lle gwnaeth radd Meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru a graddio yn 2019. Roedd ei phrosiect cyntaf, “Wundanyi”, yn ymwneud â’r stigma a’r ystrydebau sy’n gysylltiedig â thrais rhywiol ac roedd yn archwilio’r angen am drafod trais rhywiol yn y cartref a phwysigrwydd gwneud hynny. Roedd adrodd stori yn elfen flaenllaw yn ei magwraeth; roedd y straeon yn fath o adloniant yn ystod ac yn bennaf ar ôl cinio, ac roedden nhw’n ddull dibynadwy o gyfathrebu a fyddai’n dod â phobl at ei gilydd a chreu gofod lle’r oedd pawb yn un, beth bynnag fo’r gwahaniaeth oedran, cyfoeth ac iechyd.

Ar ôl graddio gyda BA mewn Seicoleg gyda Throseddeg yn 2017, roedd MaiWa yn gwybod yn union i le’r oedd angen iddi fynd i gyflawni’r hyn roedd hi eisiau ei wneud mewn bywyd. Roedd MA ym Mhrifysgol De Cymru’n golygu y gallai ddysgu a deall sut i ddefnyddio ffotograffeg i greu a newid y ddeialog mewn pentrefi lle mae’r traddodiadau a’r arferion yn wahanol. Mae hi’n elwa fwy o ffotograffeg drwy ymchwil, y mannau y mae hyn yn ei chymryd hi, y bobl y daw ar eu traws a’r rheiny sy’n caniatáu iddi fynd i mewn i’w byd – a’r rheswm mwyaf am hynny yw ei hysfa di-ben-draw am stori. Iddi hi, mae amser rhydd cyn ail gychwyn gweithio yn golygu gêm dda o dennis a gwrando ar gerddoriaeth neu wylio YouTube.

Gwefan | Instagram

Gallery

If This is a Human: A Great Curiosity

Albino – person neu anifail a aned heb bigment lliw yn y croen a’r gwallt, sydd fel arfer yn wyn a llygaid sydd fel arfer yn binc ac yn fwy sensitif nag arfer i’r golau. Albino’tic a. [sp. & Port., orig. of white Negroes, (L. albus) white + ino (ine)] (The Concise Oxford Dictionary).

Mewn rhai rhannau o’r byd, credir bod albinedd yn dod ag iechyd da a chyfoeth ariannol a materol. O edrych ar y syniad arall o bobl ag albinedd fel pobl gyda nam, mae rhai diwylliannau’n gwahaniaethu yn eu herbyn ac hyd yn oed yn eu lladd oherwydd cânt eu hystyried yn felltith ar gymunedau. Credir bod eu presenoldeb yn achosi trychinebau naturiol fel sychder a llifogydd, ac yn achosi clefydau a marwolaeth i bobl, anifeiliaid a phlanhigion (Machoko, 2013). Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod pobl gydag albinedd yn byw mewn amwysedd, ffactor sydd wedi sbarduno chwilfrydedd y farchnad ocwlt. Maen nhw hefyd yn dioddef oherwydd diffyg dealltwriaeth wyddonol a thechnolegol, yn ogystal â methiant yn addysgol i wella eu ffyniant materol.

Mae fy mhrosiect parhaus yn ymwneud â chwestiynnu, amlygu a deall sut roedd cymdeithasau’n ymateb i bresenoldeb pobl gydag albinedd cyn ac ar ôl i’r cyflwr gael ei ddosbarthu’n ffurfiol mewn meddygaeth. Drwy gyfrwng ffotograffeg ac ymchwilio deunyddiau archifol, rwy’n bwriadu amlygu a dadansoddi hanes hir albinedd er mwyn taflu golau newydd ar ddeuoliaeth hil a lliw croen. Mae’n brosiect sy’n amlygu prinder cynrychiolaeth, cyfiawnder a chynhwysiad cymdeithasol pobl sydd ag albinedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ymchwil a’r lluniau a ddefnyddir yn y prosiect hwn wedi eu gweithredu a’u tynnu mewn pedair gwlad wahanol; Cymru, Lloegr, Kenya a De Korea.