Dipanwita Saha

Mae Dipanwita Saha yn ffotograffydd annibynnol sy’n byw yn Kolkata. Daw ei diddordeb mewn ffotograffiaeth gan ei thad. Graddiodd gyda gradd mewn Peirianneg Meddalwedd. Gan ddefnyddio dulliau personol a goddrychol yn ei hymarfer ddogfennol, mae’n archwilio cymhlethdodau fframweithiau cymdeithasol a natur ddynamig sefydliadau gwleidyddol yn yr India gyfoes. Prif feysydd diddordeb Dipanwita yw hanes, naratif diwylliannol a newidiadau cymdeithasol-wleidyddol. Fel rhan o’i hymarfer o lunio delweddau, mae’n hoff o ddefnyddio lleisiau personol, archwiliadau trosiadol a haniaeth i ddatgelu’r naratif sy’n perthyn i bobl, lleoedd a’u hanesion.
Gallery
Trail of Blood
Wedi’r rhaniad, hyd yn oed os yw dinas Calcutta wedi adfer, mae’r ymdeimlad o wahaniaethu yn parhau, gan hollti gwahanol gymunedau, neu rai sectorau swyddi. Mae’r rhaniad yn dal i fodoli. Ers annibyniaeth bu llu o derfysgoedd, ond y diweddaraf yw’r gwrthdaro dros y Ddeddf Dinasyddiaeth (diwygio) a ddigwyddodd yn ninas Delhi yn 2020. Oherwydd y sefyllfa gyda Covid-19, pan ofynnwyd i gleifion hunanynysu, gwelwyd gwrthdaro enfawr yn Telinipara, Chandan Nagar, Gorllewin Bengal, gyda phobl yn gwrthod aros gyda phobl o gymunedau eraill. Mae India eisoes yn mynd trwy ddirwasgiad economaidd oherwydd Covid-19, ac mae hyn yn anochel yn mynd i arwain at newyn, a gyda’r gwrthdaro yma, mae amodau yn mynd i waethygu fwy fyth.