Artist

Huw Alden Davies

Portrait of Huw Alden Davies

Mae’r Ffotograffydd Dogfennol Huw Alden Davies, a aned ac a fagwyd yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yn archwilio llinellau hanesion gweledol ac ysgrifenedig, gan astudio cysyniadau fel synnwyr o le a hunaniaeth ddiwylliannol. Cafodd ei waith ei gyhoeddi’n eang, a’i gynnwys mewn nifer fawr o arddangosfeydd rhyngwladol, ac mae gweithiau dethol ganddo i’w cael yn archifau parhaol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a’r Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

Y ffrâm unigol a’i allu i ddweud y straeon gorau sy’n diddori Davies, ac mae’n troi ei sylw i raddau mawr at ei wlad ei hun i ddweud ei stori. O’r herwydd mae ei ffotograffau wedi cael eu dethol gan y ffotograffydd Magnum adnabyddus Martin Parr, Cymdeithas y Ffotograffwyr, ac Amgueddfa Cymru. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, y British Council, a Ffotogallery (yr asiantaeth ffotograffiaeth genedlaethol), mae gwaith Davies wedi mynd yn ei flaen yn ddiweddar i gynrychioli Cymru mewn nifer o sioeau yn cynnwys Nifer o Leisiau Un Genedl (Senedd), Dychmygu’r Genedl-wladwriaeth (Chennai), a’r cynrychiolwyr blaenorol yn India.

Gallery

Xennial: Separation of Symmetry

Wedi ei osod ar ymylon hen bentref glofaol bach yng Nghwm Gwendraeth, De Orllewin Cymru, mae ‘Xennial’ gan Huw Alden Davies yn brosiect cydweithredol amlgyfrwng sy’n archwilio’r cysyniadau hunaniaeth ddiwylliannol, hiraeth a phenderfyniaeth dechnolegol, gan hefyd gofnodi cenhedlaeth a aned ar ymylon y chwyldro digidol.

Yn ychwanegol at y gyfres gwmpasog fwy hon, mae Separation of Symmetry, sef ffilm osodwaith newydd, yn olwg ôl-syllol o’r dyfodol ar y genhedlaeth na astudiwyd sy’n pontio’r bwlch rhwng dau gyfnod, a elwir Cenhedlaeth X a Phlant y Mileniwm. Mae’n dathlu rhyfeddod plentyndod, gan hefyd dynnu ar edau’r gorffennol, ac mae’n waith haniaethol sy’n cydnabod Cymru ôl-ddiwydiannol, y tu hwnt i’r maes glo a holl addewidion y cyfnod hwnnw.