Artist

Kaz Alexander

Portrait of Kaz Alexander

Cefais fy ngeni ar 31 Awst 1957 yng Nghaint, i rieni dosbarth gwaith. Er bod fy rhieni’n gymharol dlawd, cefais fy nghamera cyntaf – Iloca Rapide B o arwerthiant bom – yn fuan wedi ei mi droi’n dair oed. Roeddwn i’n arfer tynnu lluniau er na allwn i fforddio cael rhywun i’w datblygu nhw bob tro!

Byddwn yn fy nisgrifio fy hun fel rhywun sydd wedi cael addysg dda – rwyf wrth fy modd gyda phob agwedd ar ddiwylliant – ac rwyf wedi teithio’n eang yn fy ieuenctid. Teithiais dros dir i Iran, lle bum i’n byw am nifer o fisoedd pan oeddwn i’n ddwy ar bymtheg (teithiodd fy Iloca gyda mi). Rwyf wedi byw a gweithio fel tiwtor Saesneg preifat yn yr Almaen. Mae hyn yn beth da am fy mod i’n ddifrifol wael erbyn hyn, yn anabl ac yn gaeth i’r tŷ.

Am fy mod wedi bod yn ddifrifol wael ac anabl ers 1982, rydw i wedi dysgu mor bwysig yw hi i droi’r negyddol yn bositif – neu o leiaf i roi cynnig ar wneud hynny; dyma sut i oroesi. Rydw i wedi byw yng Ngogledd Cymru ers 1985 ac erbyn hyn rwy’n byw mewn ardal gweddol anghysbell ar Ynys Môn ac yn gweld dim ond gofalwyr ac aelodau’r Tîm o Nyrsys Bro. Does gen i ddim teulu biolegol ar ôl ac mae fy nghyfeillion wedi eu gwasgaru gyda’r pedwar gwynt; rwy’n siarad gyda’m ffrindiau drwy’r cyfryngau cymdeithasol bob dydd ac yn cyfeirio atynt fel fy Nheulu o Gyfeillion Byd-eang – does dim diwrnod yn mynd heibio na fydd rhywun yn dweud wrthyf eu bod yn fy ngharu ac fy mod i’n bwysig.

Yn y gorffennol, cafodd fy ngwaith ei arddangos yn Llundain; unwaith yn y Tate pan oeddwn i yn yr ysgol, ac unwaith yn yr arddangosfa The Art of Caring yn St George, ac un tro roedd dau baentiad gen i ar y rhestr wrth gefn yn Oriel Plas Glyn y Weddw.

Mae’n ymddangos mai dyna fi.

Instagram

Gallery

My World Through Glass

Rwy’n treulio fy niwrnodau a’m nosweithiau yn yr un gadair godi/orwedd anabl 24/7 365. Nid oes posib fy rhoi i mewn neu fy nhynnu i allan o gar, ac mae fy nhripiau i’r ysbyty mewn ambiwlans. Y gyfres hon o gyfyngiadau sydd wedi effeithio ar fy newis bynciau ac arddull.

Er gwaethaf fy ynysiad corfforol rwy’n gweld y byd a’r awyr yn newid drwy’r amser, drwy sgrin fy llechen a ffenestr fy ystafell fyw. Mae hyn yn bwydo fy angerdd at gymaint o bethau: ffotograffiaeth, meteoroleg, seryddiaeth a chreadigedd; mae fy meddwl yn rhydd o boen, salwch a diffyg symudedd.

Trwy gyfrwng fy llechen, rwy’n herio’r pethau y gwn eu bod yn annheg. Drwy gamera fy llechen – ac weithiau fy Canon 100D – rwy’n ceisio creu cofnod prydferth a gonest o realiti.